THE latest community news from Llanfarian
Merched y Wawr
GANOL mis Medi yn Sioe Llanfarian roedd Merched y Wawr wedi arlwyo bwrdd llawn danteithion.
Mae’r sioe yn flynyddol yn clymu’r ardal at ei gilydd a thema‘r Merched yn gyfraniad canolog gwerthfawr i’r diwrnod.
Cododd y gangen hwyl unwaith yn rhagor ar drothwy Hydref arall.
Treuliodd rhai o’r aelodau noson gynnes a chroesawgar yng nghwmni cangen Mynach.
Noson ddelfrydol i agor tymor ffres a newydd.
John Jones fu’n llywio’r cwis yn hwyliog fel arfer.
Nôl gartre i Neuadd Llanfarian trannoeth a chroeso Beti Wyn yr un mor gynnes, Anne M Davies a hithau wedi paratoi rhaglen swmpus ar ein cyfer.
Taflu golwg yn ôl dros ysgwydd yr Haf y Dathlu, Eisteddfod Môn, rhaglennu teledu a radio.
Cafwyd llawer o sgwrsio brwd a chyfle i wyntyllu barn. Dros ein bwrdd swper tynnwyd gwobrau‘r raffl a’u rhannu i Mary, Mair Griffiths, Eluned a Iona.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.