THE latest community news from Llanfarian

Cymdeithas Ddiwylliannol yr Hebog

BYRDDYDD GAEAF oedd y cofnod ar y calendr pan deithiodd aelodau’r gymdeithas i festri Capel Blaenpennal wedi gwahoddiad gan gymdeithas ddiwylliannol y fro.

Dethol; gall fod yn her ac yn bleser.

Os llwyddir i gyflawni’r gofyn gwelir crefft y detholwr.

Dyna’r gamp a gyflawnodd John Meredith wrth iddo dywys y gynulleidfa ar hyd llwybrau amrywiol ei yrfa newyddiadurol.

Manteisiodd ar dapiau sain a defnyddiau gweledol er mwyn cyflwyno’r hanesion am achlysuron, digwyddiadau a phrofiadau gwahanol.

Mae’n ofynnol i gyfathrebwr adnabod ei gynulleidfa ac yr oedd yr ymateb a gafwyd yn cadarnhau bod nifer o’r gwrandawyr yn uniaethu â’r testunau dan sylw.

Cyfeiriwyd at ddiwrnod ola’r swyddfa bost ym Mlaenpennal, hanes hers a cheffyl yn ogystal â menter Morfa Du yn trin a thrafod meginau.

Yn aml gall delweddau gweledol gyfleu’r newydd yn hynod o drawiadol.

Awyren a blymiodd i’r ddaear ger Y Borth a thân yn Aberystwyth oedd dwy o’r straeon a ddidolwyd gan John Meredith.

Cafwyd pytiau doniol a difrif yn ystod orig ddymunol.

Er bod y dyddiadur yn dynodi canol gaeaf yr oedd y croeso a’r cwmni a brofwyd yn y festri yn cynhesu’r galon.

Diolchwyd ar ran aelodau Cymdeithas yr Hebog gan y cadeirydd, y Parch Nicholas Bee.

Merched y Wawr

YNG nghyfarfod cyntaf y flwyddyn roedd Anne wedi trefnu sypreis i ni.

Gwyneb dieithr ddaeth drwy’r drws.

Cyflwynodd Anne y Parch Derek Adams i ni.

Gweinidog gyda’r Efengylwyr yw Derek, ond daeth i’n swyno mewn ffurf gwahanol fel consurwr.

Fe’n swynwyd o’r cychwyn cyntaf, gyda phob tric yn ein gadael yn geg agored a’n meddiannu’n llwyr.. dyma oedd dewin y cardiau a’r peli!

Daeth y noson i ben lawer rhy fuan, gyda diweddglo o jyglo gyda thair pêl liwgar, ymlaen i bedair, a hyd yn oed i bump pêl yn dawnsio yn yr awyr heb yr un bêl ar lawr.

Cyfle i ryfeddu a chwerthin lond bol, i wagu’r meddwl ac ymlacio.

Noson a hanner fel y dwedodd Beti Wyn, wrth ddiolch iddo ar ein rhan.

Tasg wahanol i’n gwr gwadd fu tafoli ein cystadleuaeth sef ‘Hoff ddywediad’.

Allan o’r nifer o ddywediadau ei dewis oedd un Iona, Jean a Mary.

Estynnwyd gwobrau raffl lwcus i Valmair a Brenda.

Paned o de a bisgedi blasus wedyn o law Luned a Dora, cyn troi mâs i noson rewllyd yn dal i chwerthin, diolch i Derek Adams.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]