THE latest community news from Llangwyrfon
Merched y Wawr
BU raid ail-drefnu ein cinio Nadolig oherwydd y tywydd, ond aeth 15 o aelodau i Gegin Gareth y tu allan i Lanbedr Pont Steffan ar 8 Ionawr.
Croesawyd ni gyda diod cynnes a manion i dynnu chwant.
Yna cinio Nadolig tri chwrs â phob peth yn blasu’n fendigedig. Gorffennwyd gyda choffi neu de a mins peis a fflapjacs.
Ym marn nifer ohonom dyma’r cinio Nadolig gorau erioed. Mae Gareth Richards yn feistr ar ei grefft a diolchwyd iddo gan Jayne Jones; hi ac Ann Ellis oedd wedi trefnu’r noson.
Bydd y cyfarfod nesaf ar 12 Chwefror pan fydd Eleri Hughes a Helen McAnulty-Jones yn dangos sut i baratoi te prynhawn.
Cymdeithas Tabor
CYNHALIWYD cwrdd Dechrau’r Flwyddyn y Gymdeithas ar 1 Ionawr eleni.
Cymerwyd rhan gan nifer o’r aelodau a chafwyd anerchiad byr ond pwrpasol gan ein gweinidog Nick Bee.
Noson o bingo, yng ngofal Ifor Morgan fydd yn y Gymdeithas ar 5 Chwefror.
Clwb Croeso
FEL sy’n arferol, erbyn hyn, prynhawn o gemau bwrdd a geir yng nghyfarfod cyntaf y flwyddyn newydd. Roedd nifer wedi dod â gemau i’w rhannu a rhai yn newydd ac anghyfarwydd.
Treuliwyd orig hwyliog iawn ymysg chwerthin mawr ar adegau a mwynhau’r baned a’r glonc wedyn.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.