THE latest community news from Llangwyryfon
Cymdeithas Tabor
NOS Lun, 19 Tachwedd, Seiat Holi oedd ar y rhaglen, ac fel arfer, gofalwyd bod siaradwyr huawdl ar y llwyfan, sef Aled Rees, Efan Williams, Joyce George a Mary Davies.
A does neb yn well nag Eirwen Williams i weithredu fel cadeirydd. Mae Eirwen yn feistres ar y dasg hon a chydag amrywiaeth o gwestiynau difrif a digri llwyddodd i gadw’r panelwyr mewn trefn a’r gynulleidfa’n hapus.
Dechreuwyd yn ysgafn trwy ofyn i’r panelwyr ddisgrifio eu hunain mewn tri gair. Aed ymlaen at bynciau llosg fel gwendidau’r system addysg, rhaglen deledu am achub pengwyniaid, a chodwyd tipyn o stêm wrth drafod ail-agor y rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin.
Gorffennwyd yn ysgafn gydag enghreifftiau o sefyllfa o embaras gan bob un, a achosodd lond lle o chwerthin.
Diolchwyd i’r panelwyr a’r cadeirydd gan Eleri Hughes.
Dechrau Rhagfyr roeddem wedi gobeithio cael cwmni heddwas a’i gi, ond oherwydd galwadau gwaith methodd â dod. Roedd Ifor Morgan, yr ysgrifennydd, yn barod gyda ‘plan b’.
Mewn byr o dro roedd wedi llwyddo i atgynhyrchu copïau o gwis yn cynnwys ugeiniau o gwestiynau.
Diolch iddo am achub y noson.
Merched y Wawr
CYNHALIWYD y cinio blynyddol yn y Richmond eleni. Y gwraig wadd oedd Sandra Morris Jones, sydd newydd orffen ei thymor fel llywydd y Mudiad. Siaradodd yn huawdl am ei gwaith gyda’r Mudiad a’r profiadau a ddaeth i’w rhan ac mor allweddol oedd dylanwad y Mudiad ym maes iechyd merched ac addysg plant bach trwy gyfrwng y Gymraeg a rhoi cefnogaeth i ddysgwyr h?n.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.