THE latest community news from Llaniestyn
Merched y Wawr
DECHRAU mis Chwefror cawsom noson ‘sgenti dalent’.
Diolch o galon i Meryl, Caroline, Carol, Olwen a Myra am ddangos i gwaith dawnus.
Braf gweld yr aelodau yn cymryd rhan ac yn mwynhau.
Gwnaethwyd y te gan Mary, Mair ac Olwen a chafwyd y diolchiadau gan Meryl.
Llongyfarchiadau i bawb aeth i’r chwaraeon yn Chwilog.
Daeth Nerys a Doris yn ail am chwarae chwist, byddant yn mynd ymlaen yn awr i Machynlleth.
Ar nos Lun, 26 Chwefror, aeth aelodau’r gangen i ddathlu Dydd Gwyl Ddewi gyda changen Efailnewydd a Llannor.
Cafwyd gwledd wedi ei baratoi gan yr aelodau a daeth Gwenan Gibbard atom i’n diddori yn ardderchog.
Diolch am noson arbennig iawn.
Cynhelir y noson bingo yn y Ganolfan, nos Fawrth, 13 Mawrth, am 7.30yh.
Croeso i bawb.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.