THE latest community news from Llanon
Plaid Cymru
MAE hi wedi bod yn ddeufis prysur i aelodau Cangen Plaid Cymru Llanon a’r Cylch.
Etholwyd swyddogion newydd i gymryd yr awenau ym mis Mawrth; bu ymgyrchu brwd tuag at yr etholiadau lleol ym mis Mai ac yna cyfnod byr a dwys o ganfasio dros Ben Lake yn yr Etholiad Cyffredinol ar 8 Mehefin.
Hoffem ddiolch i bob un o drigolion yr ardal wnaeth sgwrsio gyda Ben ar stepen y drws ac a fu’n barod i wrando ar ei weledigaeth i’r sir. Mae ei waith caled eisoes wedi cychwyn yn San Steffan ac mae’n edrych ymlaen at fod yn lais cryf dros Geredigion.
Ym mis Mai trefnodd y gangen gwis yn Nhafarn y Swan.
Cafwyd cystadlu brwd a daeth tîm Y Gwyryfon i’r brig – llongyfarchiadau!
Yn ogystal â threfnu gweithgareddau cymdeithasol, mae’r gangen yn ymgyrchu ar faterion lleol. Un o’r materion sy’n peri pryder i drigolion yr ardal yw safon y gwasanaeth band eang a’r diffyg cyfleusterau band eang cyflym iawn, yn enwedig yn yr ardaloedd mwyaf gwledig. Byddwn yn cydweithio gydag Elin Jones AC a Ben Lake AS er mwyn trio gwella’r sefyllfa ar fyrder.
Bydd cyfarfod nesaf y gangen ar 19 Gorffennaf, am 7pm yn Nhafarn y Swan, Llanon.
Croeso i aelodau hen a newydd.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.