THE latest community news from Nefyn

Capel Soar

BORE Sul, 5 Mai cafwyd gwasanaeth gan y Parch Harri Parry, Caernarfon a’r testun oedd ‘Mair a Martha, Ffydd heb Weithredu marw yw Gwrand a Gweini’.

Bore Mawrth, 7 Mai yn Soar Cyfarfod Gweddi Seren y Mis dan arweiniad y Parch Glenys Jones: Iesu yn cario beichiau pan fo bywyd yn anodd.

Dydd Sul, 12 Mai, oedd diwrnod Cymanfa Annibynwyr Pen Ll?n a gynhaliwyd yn Seion, Llanbedrog am 2yp a 7yh dan arweiniad Iwan Williams ac yn cyfeilio oedd Dilys Prydderch.

Roedd y rhan yn cychwyn gyda Ysgol Sul Seion ac eitemau gan Ysgol Sul Soar, Nefyn a llywyddwyd gan Gwenda Roberts, Hebron.

Y rhan yn cychwyn roedd Rehoboth, Llaniestyn yn cymryd rhan a llywyddwyd gan y Parch Glenys Jones.

Cafwyd y diolchiadau gan Dan Owen, Capel Soar, Nefyn a mwynhawyd te ym Mhlas Glyn-y-Weddw.

Bore Sul 19 Mai am 10yb mwynhawyd gwasanaeth gan y Parch Glenys Jones, a’i thestun oedd Y Daith o Jeriwsalem i Jerico a hanes Bartimeus Ddall yn cael ffydd yn yr Iesu wedi derbyn ei olwg yn ôl.

Sul olaf y mis, 26 Mairoedd y Gwasanaeth yng ngofal Dan Owen a’r testun oedd ‘Y Briodas yn Cana Galilea a’r Iesu yn throi y d?r yn win.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]