THE latest community news from Nefyn
Pensioners Club
A MEETING was held on Tuesday, 4 July, with Mrs B W Jones in the chair. Mrs Jones welcomed members and sent best wishes to members unable to attend. Mrs Jones sent wishes for a speedy recovery to Mrs E Thomas and welcomed a new member Mrs M Hudson.
Mrs Jones welcomed Sioned Williams from St David’s hospice who gave a talk on her work and future development of the hospice.
Mrs J Griffith gave the vote of thanks. The meeting concluded with final arrangements for the mystery trip. The next meeting will be on Tuesday, 5 September.
Cyfeillion
CYFARFU’R Cyfeillion ym Mhlas Hafan nos Lun, 3 Gorffennaf.
Llongyfarchwyd y swyddog mewn gofal a’r staff am y canlyniad da a gafwyd i archwiliad yn ddiweddar. Yr oedd rhoddion er cof wedi eu cyflwyno gan deuluoedd dau o gyn breswylwyr y cartref a gwerthfawrogir hyn yn fawr. Nodwyd fod basgedi crog hardd iawn wedi eu derbyn trwy law’r cyngor tref.
Trafodwyd y bore coffi fydd ymlaen fore Mercher, 6 Medi, yn Festri Capel Penlan, Pwllheli.
Derbynnir yn ddiolchgar unrhyw roddion tuag at y raffl a’r byrddau cacennau a tombola gan unrhyw aelod neu ym Mhlas Hafan.
Bydd cyfarfod nesaf y Cyfeillion nos Lun, 21 Awst, am 7.30yh.
Capel Soar
FORE Sul, 18 Mehefin am 10yb, cafwyd gymanfa Annibynwyr Plant Llyn ac Eifionydd yn Soar, Penygroes dan arweiniad Mererid Mair. Yna am 5yh, ein gweinidog y Parch Glenys Jones oedd yn gyfrifol am y gwasanaeth.
Cafwyd hanes yr Iesu yn chwalu waliau a chodi pontydd ac ymestyn at y gwrthodedigion. Janet Wyn Hughes oedd wrth yr organ trwy’r dydd.
Y Parch Angharad Roberts o Drefor oedd yn gyfrifol am wasanaeth ar fore Sul, 25 Mehefin, yn trafod ‘Cadarnhau bod Duw yn fwy na drigioni a bod gobaith yn gallu Duw’. Yna am 5yh, y Parch Pryderi Llwyd Jones, Criccieth oedd yn trafod Pedr yn dweud fod Duw wedi dyrchafu Iesu yn Arglwydd ac i ninnau rannu yn yr un newydd. Beti Wyn Jones oedd wrth yr organ trwy’r dydd.
Am 10yb, ar dydd Sul, 2 Gorffennaf, cafwyd gwasanaeth gan Nerys Jackson, Caernarfon. Testun gwasanaeth Nerys oedd Y Pentecost a rhedio yn yr ysbryd glân.
Am 5yh, y Ficar Richard Wood, Nefyn oedd yn gyfrifol am y gwasanaeth a chafwyd trafodaeth ddifyr am ‘Un yng Nghrist ac yfed o’r dwr buddiol’. Arwyn Hughes oedd wrth yr organ trwy dydd.
Glyn Owen o Llanwnda oedd yn gyfrifol am wasanaeth y bore a’r nos ar ddydd Sul, 9 Gorffennaf.
Yn y bore cafwyd sgwrs am ‘Un person ydych chwi oll ymhlith Iesu’.
Yn y nos cafwyd gwasanaeth yn deillio o’r drydydd bennod o Job, adnodd 26. Janet Wyn Hughes oedd wrth yr organ trwy’r dydd.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.