THE latest community news from Nefyn
Capel Soar
DYDD Sul, 4 Chwefror, am 10yb a 5yh roedd y gwasanaeth yn nwylo medrus y Parch Ioan W Gruffydd.
Yn y bore ‘Pobl ddim yn gwrando – testun ar neges Jeremiah’ ac i gyfarfod yr hwyr ‘Yr Arglwydd yw fy ffydd’.
Bore Sul, 11 Chwefror, am 10yb, cafwyd gwasanaeth gan y Parch Angharad Roberts a’i thestun oedd ‘Gwahanol agwedda at Iesu’n glanhau’r Deml’.
Dydd Sul, 18 Chwefror, cafwyd cwmni y Parch Glenys Jones a’i thestun oedd ‘Gwinllan Nabath’.
Dydd Sul, 25 Chwefror, cafwyd dau wasanaeth – 10yb a 5yp.
Yn y bore Dewi Jones, Pwllheli a’i destun oedd ‘O HABACUC a’r emyn Bywha dy waith’.
Am 5yh testun Dewi oedd ‘Salm 33 Brenhinoedd a Gwarchod Etifeddiaeth’.
Nos Fawrth, 20 Chwefror, cynhaliwyd cyfarfod Y Gymdeithas yn Festri, Capel Soar gyda Ann Evans, Tyn Llys yn dangos sleidiau a rhoi tipyn o hanes Ethiopia.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.