THE latest community news from Penrhyndeudraeth
Merched y Wawr
MIS y crwydro yw’r mis yma wedi bod!
Ar 16 Mehefin, trefnodd cangen Deudraeth a changen Porthmadog i Ddathlu’r Aur drwy ddull unigryw iawn, sef cysylltu dwy ranbarth, sef Meirionnydd a Dwyfor, mewn Cadwyn ar hyd y Cob.
Diwrnod braf a llawen gyda pum cangen arall a disgyblion o‘r ysgolion lleol yn cwrdd ar ganol y Cob a chydgerdded i’r Ganolfan ar yr harbwr.
Llun (ar y dde) - Catherine, Nefina a Menna gyda baner cangen Deudraeth.
Yna ar 19 Mehefin, bu rhai o’r aelodau yn y parc i weld yr arddangosfa a’r paneli arbennig sydd wedi eu paratoi gan bob rhanbarth i ddathlu sefydlu y Mudiad yn 1967.
I orffen y crwydro cynhaliwyd y daith flynyddol, ac eleni Pontio ym Mangor a Phlas Newydd oedd y ddwy gyrchfan, ac wrth gwrs pryd o fwyd i ddiweddu diwrnod braf iawn a hynny yn y Garddfon yn Y Felinheli.
Yn Pontio croesawyd ni gan Elen ap Robert, y cyfarwyddwr artistig, a Shari Llewelyn, ac yna arweiniwyd ni o amgylch yr adeilad hardd yma.
Gwelsom Theatr Bryn Terfel a chael eglurhâd o’i hyblygrwydd ar gyfer pob math o weithgaredd a chynyrchiadau.
Yna yn y sinema cafwyd cyflwyniad gan Emyr Glyn Williams, cydlynydd y sinema, a gwelwyd clipiau o’r ffilmiau sydd i’w dangos yn fuan.
Rhaid wedyn, wrth gwrs, oedd cael paned a chacen yn Y Gegin cyn dychwelyd at y bws ar gyfer yr ymweliad â Phlas Newydd.
Yma caed cyfle i fynd o amgylch y ty, y gerddi a’r siop, ac unwaith yn rhagor, paned ac ati yn y caffi.
Mwynhawyd y cwmni yn y Garddfon ar ôl diwrnod prysur a diddorol cyn cychwyn yn ôl am adref.
Ymunodd cangen Llan Ffestiniog gyda ni am yr ailwaith ac mae’n braf cael cwmni ar y teithiau yma ac mae’n rhaid diolch unwaith yn rhagor am nawdd gan Gronfa Arian i Bawb. Mae’r gronfa yma yn rhoi y cyfle i ni gael mwynhau teithiau o amgylch ein hatyniadau a chael profiadau amrywiol.
Y flwyddyn yma y dewis oedd ymweliad â Pontio, sef adeilad newydd hardd a chartref a gerddi hanesyddol ac yn sicr bydd sawl un yn ail ymweld â Pontio i fwynhau yr arlwy sydd ar gael yno.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]



.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)


Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.