THE latest community news from Pontrhydfendigaid

Cronfa Leol Eisteddfod 2020

BYDD cyfarfod o bwyllgor Cronfa Leol ardaloedd Ystrad Fflur ac Ystrad Meurig ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2020 yn cael ei gynnal yn llyfrgell Neuadd Pantyfedwen nos Iau, 6 Mehefin am 7.30yh.

Y digwyddiad nesaf fydd yr ocsiwn fawr, barbeciw ac adloniant yng nghwmni Tecwyn Ifan ar nos Sadwrn, 22 Mehefin.

Mae rhai tocynnau ar ôl – cysylltwch â naill ai Sioned Fflur ar 07825 082581 neu Manon Mai ar 07531 350191.

Rhydfendigaid CYNHALIWYD bore coffi blynyddol Wythnos Cymorth Cristnogol yn Festri Rhydfendigaid ddydd Sadwrn, 19 Mai. Diolch i bawb a gyfrannodd mewn unrhyw fodd at yr achos teilwng hwn. Teithiodd llond bws-mini i Soar y Mynydd ddydd Sul, 26 Mai, gydag un o aelodau Rhydfendigaid, Lyn Ebenezer yn pregethu. Mwynhawyd te blasus yn Y Talbot yn Nhregaron ar ôl yr oedfa. Edrychir ymlaen at y gwasanaeth eciwmenaidd a gynhelir yn Abaty Ystrad Fflur fore Sul, 28 Gorffennaf. Bydd plant yr Ysgol Sul yn cymryd rhan gydag eitemau cerddorol, a bydd Lyn Ebenezer yn annerch. Rhagor o fanylion i ddod. Bydd Trip Oedolion y Capel eleni yn cael ei drefnu i ymweld â Dolwar Fach a’r cyffiniau, cartref yr emynyddes Ann Griffiths, ar ddydd Sul, 1 Medi. Bydd y bws yn gadael am 11yb, yn syth ar ôl yr oedfa yn Rhydfendigaid. Os hoffech ymuno â’r trip, rhowch eich enwau i Neli (01974 831695). If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]