THE latest community news from Pontrhyfendigaid
Gwasanaethau
RHYDFENDIGAID (Presbyteriaid) dydd Sul, 16 Mehefin: 11yb, Ysgol Sul; 2yp, ymuno â Charmel am y Cwrdd Gweddi Undebol.
Carmel (Bedyddwyr) - dydd Sul, 16 Mehefin: 2yp, Cwrdd Gweddi Undebol.
Ocsiwn, barbeciw ac adloniant
BYDD yna ocsiwn fawr, barbeciw ac adloniant yng nghwmni Tecwyn Ifan ar nos Sadwrn, 22 Mehefin yn Neuadd Pantyfedwen am 7.30yh.
Bydd y rhaglen Heno yn dod i lyfrgell Neuadd Pantyfedwen ar y nos Lun cyn hynny, sef yr 17eg, am 6.30yh ar gyfer lansio llun a gomisynwyd o waith yr arlunydd Aneurin Meirion Jones, sef llun unigryw o Ystrad Fflur, a bydd cyfle i weld yr eitemau a fydd ar werth ar yr ocsiwn yn fyw ar y rhaglen am 7yh y noson honno.
Mae croeso i unrhyw un i ddod i’r llyfrgell i weld yr eitemau pryd hynny (gyda chyfle i ymddangos ar y teledu) a’r mynediad am ddim.
Mae rhai tocynnau ar ôl ar gyfer noson yr ocsiwn (pris £10) – cysylltwch â naill ai Sioned Fflur ar 07825 082581, neu Manon Mai ar 07531 350191.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.