THE latest community news from Pontrhydfendigaid

Rhydfendigaid

Cafwyd Sul i’w gofio yn Rhydfendigaid ar ddydd Sul, 23 Rhagfyr. Yn ogystal â dathlu’r Nadolig roedd yn gyfle i ddathlu ac i ddiolch i Lewis Wyn Daniel am 24 mlynedd o wasanaeth clodwiw i eglwysi Rhydfendigaid, Caradog a Swyddffynnon, ac i ddymuno’n dda iddo ar ei ymddeoliad.

Am 10yb, cynhaliwyd oedfa Nadolig yr Ysgol Sul, gyda 25 o blant yn cymryd rhan.

Croesawodd y Parch Lewis Wyn Daniel bawb i’r cyfarfod, gan gyfeirio at bobl a oedd wedi teithio o mor bell a’r Alban, Ynys Jersey a Rhydaman.

Yn y rhan gyntaf, cafwyd eitemau o unawdau lleisiol, deuawdau, adroddiadau, unawd ffliwt a pharti canu, ac yna tro’r plant iau oedd hi i gyflwyno Stori’r Geni. Roedd safon y cyflwyniadau ar eu hyd yn safonol, â’r plant wrth eu bodd yn cymryd rhan.

Y plant a gymerodd ran oedd Dion Wyn (storïwr), Cari Davies, Dwynwen Jones, Megan Herberts, Rhiannon Jones, Gethin Evans, Gwenno Humphreys a Mari Herberts, Saran Aur Cerith (Mair), Guto Davies (Joseff), Delun Davies (Gabriel), Gwawr Jenkins, Gwenno Evans, Lleucu Jones, Jess Owen, Mati Briall Cerith, Elen Hughes, ac Anest Jones (angylion), Buddug Jones, Caio ap Nial a Steffan Wilcocks (bugeiliaid), Emrys Jones, Iestyn Jenkins a Ianto Rhyd Wilcocks (doethion) a Cain Owen (Herod). Cafwyd anerchiad gan y Parch Lewis Wyn Daniel, ac roedd yn hyfryd gweld yr ymateb arferol gan y plant.

Gwnaed casgliad tuag at apêl arbennig Corwynt Cariad yn y Philipinau gan Gethin ac Emrys.

Cyflwynodd y Parch Lewis Wyn Daniel anrhegion o Gristinglau i bob plentyn a oedd yn bresennol ar ddiwedd y gwasanaeth.

Ar ôl y gwasanaeth yn y capel, aeth pawb fyny i Neuadd Pantyfedwen i fwynhau gwledd arall, ac roedd yn hyfryd gweld llond y neuadd wedi dod i ddathlu.

Cyflwynwyd rhoddion i’r Parch Lewis Wyn Daniel ar ran eglwysi Rhydfendigaid, Swyddffynnon a Charadog, yn ogystal ag Eisteddfod Swyddffynnon.

Cydlynwyd y gweithgareddau’n y neuadd gan Selwyn Jones, a chyflwynwyd y rhoddion gan Gwen Herberts ar ran Rhydfendigaid, Delun Davies a gyflwynodd flodau ar ran yr Ysgol Sul i Joy Daniel, Lyn Ebenezer a ddarllenodd soned arbennig o’i waith wedi ei fframio, Wyn Evans ar ran eglwys Caradog a Dafydd Jones ac Annwen Davies ar ran eglwys ac Eisteddfod Swyddffynnon.

Cafwyd gair ymhellach gan Charles Arch ar ran Eglwys y Santes Fair, Ystrad Fflur, John Jones ar ran eglwys Carmel y Bedyddwyr a chan Dai Meredith ar ran eglwys Sant Ioan Ystrad Meurig. Diolchodd Lewis Wyn Daniel yn ddiffuant i bawb am eu haelioni ac am y geiriau caredig.

Roedd yn hyfryd cael cwmni brawd a chwaer-yng-nghyfraith y Parch Lewis Wyn Daniel hefyd, sef Dewi a Glenys Daniel o Rydaman.

Yn dilyn y gwledda, talwyd ymweliad gan Sion Corn, pryd y rhannodd anrhegion ar ran Ysgol Sul Rhydfendigaid i bob plentyn a oedd yn bresennol.

Diolch i John Watkin am gynorthwyo Santa eleni eto, a hefyd am y rhodd o goeden Nadolig hardd i’r capel.

Y Sul canlynol, cynhaliwyd Gwasanaeth Plygain yn y capel, yng nghwmni Lyn Ebenezer, Ian Huws a Selwyn Jones, a dydd Sul, 7 Ionawr, tro’r gwragedd oedd hi i gynnal Cwrdd Gweddi Dechrau’r Flwyddyn.

Mae plant yr Ysgol Sul yn edrych ‘mlaen at fynd i weld y panto Cinderella yn Aberystwyth ar fore Sadwrn, 13 Ionawr, a bydd yr Ysgol Sul yn ail-agor ar 14 Ionawr, gyda chroeso mawr i unrhyw blentyn sy’n dymuno ymuno â’r Ysgol Sul sy’n cwrdd yn rheolaidd am 11yb ar fore Sul.

Gwasanaethau

Rhydfendigaid (Presbyteriaid): Dydd Sadwrn, 13 Ionawr, 11yb: Yr Ysgol Sul ym mynd i weld Panto yn Aberystwyth. Dydd Sul, 14 Ionawr, 10yb – Parch Ifan Mason Davies; 11yb – Ysgol Sul.

Carmel (Bedyddwyr): Dydd Sul, 14 Ionawr, 2yp – Parch J E Wynne Davies.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]