THE latest community news from Pontrhydfendigaid
Gyrfa Chwist
CYNHELIR Gyrfa Chwist yn Neuadd Pantyfedwen ar nos Iau, 8 Chwefror am 8yh, dan nawdd Sefydliad y Merched.
Croeso cynnes i bawb.
Eisteddfodau Teulu James
MAE’R rhestr testunau ar gyfer Eisteddfodau Teulu James Pantyfedwen ar gael gan yr ysgrifenyddion cyffredinol, Selwyn a Neli Jones 01974 831695 [email protected] ac yn y siopau lleol.
Mae yna amrywiol gystadleuthau, yn cynnwys noson Sadwrn y Sêr ar y nos Sadwrn, a Thalwrn y Beirdd ar y nos Sul.
Mae yna hefyd gystadleuaeth newydd ar gyfer ieuenctid, a chyflwynir Tlws yr Ifanc mewn seremoni arbennig yn y Talwrn i’r bardd neu lenor ifanc gorau.
Y dyddiadau eleni yw 4 – 7 Mai.
Gwasanaethau
RHYDFENDIGAID (Presbyteriaid): Dydd Sul, 21 Ionawr: 10yb, Huw Roderick; 11yb, Ysgol Sul.
Carmel (Bedyddwyr): Dydd Sul, 21 Ionawr: 2yp, Parch Andrew Lenny, Oedfa Gymun.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.