THE latest community news from Porthmadog
Borth-y-Gest
SERVICE in English, 1 October, at 11.30am, led by Rev Iwan Llewelyn Jones, resident minister at Borth-y-Gest.
Merched y Wawr
CAED agoriad rhagorol i’r tymor nos Fawrth, 19 Medi, yng nghwmni yr amryddawn Dewi Pws (Dewi Grey Morris) yn awr o Nefyn a chynt o Dre-saith.
Un sy’n adnabyddus trwy Gymru gyfan fel aelod a phrif leisydd, Tebot Piws, yn aelod o Gwmni Theatr Cymru, yn actor mewn amryw o raglenni a’i gyfresi comedi ar S4C, yn ddigrifwr, yn gyflwynydd teledu, yn fardd ac ef oedd Bardd Plant Cymru rhwng 2010-2011.
Cawsom orig ddifyr, llawn hiwmor, yn gwrando ar straeon, jôcs a throeon, trwstan, ambell i ddarn barddoniaeth, a sawl cân.
Traddodwyd y cyfan yn ei ffordd ddigri, ddihafal ei hun, yn llawn hiwmor a chwerthin iach.
Llywyddwyd y noson gan y llywydd, Susan Owen a hi hefyd a gyflwynodd y gwr gwadd yn ddyheig iawn.
Trafodwyd rai o lythrau’r mudiad a chydymdeimlwyd ar golli dwy aelod ffyddlon, sef Betty Griffiths a Gwyneth Pritchard.
Croesawyd sawl aelod newydd i’n plith a gobeithio y cant lawer o bleser o fynychu’r cyfarfodydd.
Talwyd y diolchiadau gan Hefina, gofalwyr y paned oedd Gwen, Pat, Norma, Meryl a Carol.
Enillwyd y raffl gan Rowena, rhoddedig gan Rhiannon a Susan.
Bydd y cyfarfod nesaf ar 17 Hydref, ‘Mela yn Mhen Llyn’ sgwrs gan J R Jones.
Diweddwyd y cyfarfod drwy ganu Cân y Mudiad.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.