THE latest community news from Porthmadog
Merched y Wawr
FIS Ionawr bu’r gangen yn dathlu ei phenblwydd yn hanner cant oed.
Cyn cychwyn, dan lywyddiaeth Carys Lake, cawsom ennyd o ddistawrwydd i gofio am y ddamwain drychinebus yng Ngellilydan a’r effaith ar y teuluoedd a’r gymuned gyfan.
Yna fe’n tywysodd yn ôl hanner can mlynedd gan fynegi fod y gangen yn fwy na chlwb i gyfarfod ffrindiau, ond ein bod yma i genhadu dros warchod y Gymraeg a’n treftadaeth.
Hefyd llongyfarchwyd Ifanwy ar fod yn aelod o’r Mudiad Heddwch am dros 70 o flynyddoedd, diolch iddi hi a’i thebyg.
Bu’r pwyllgor wrthi’n ddyfal yn trefnu noson ardderchog i ni gan addurno ystafell Glaslyn a phosteri a gwisgoedd o’r 60au - yn atgoffa rhai ohonom o’r amser pan oeddem ni yn ein preim.
Wedyn gwledda ar arlwy hynod flasus wedi ei baratoi gan Dafydd Edwin o siop Y Deli.
Ein gwr gwadd oedd Rhys Mwyn o Gaernarfon a chawsom sgwrs ddifyr dros ben ganddo - rydym oll yn gyfarwydd â’i ddawn deud a’i fod yn hanesydd ac yn archaeolegydd praff ac yn golofnydd diddorol i’r Herald.
Tywyswyd ni’n ôl i’r 60au ganddo yntau hefyd, gan roi gogwydd gerddorol i’r cyfnod.
Cyn troi am adref cawsom damaid o gacen penblwydd fendigedig, wedi ei pharatoi a’i haddurno gan Gill - diolch o galon iddi hi ac i Margaret H a Nia am roi planhigion hyfryd fel raffl, oedd wrth fodd Cathi yr enillydd.
Diolch i bawb a wnaeth y dathliad yn un bythgofiadwy.
The Church of Jesus Christ of Latter-day Saints
THIS coming Sunday in Penamser Estate chapel: 10am, Main Service (with bi-lingual communion); 11.20am, Gospel Study (Sunday School for all ages); 12.10pm, Section meetings (men, women, youth, children).
Everybody welcome. Croeso cynnes i bawb.
Capel Bethel, Borth-y-Gest
ON Sunday, 4 February: 11.30am, service in English, led by the minister, the Rev Iwan Llewelyn Jones.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]



-(1).png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)



Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.