THE latest community news from Porthmadog

Merched y Wawr

Yn y cyfarfod diwethaf amlygwyd doniau arbennig amryw o’r haelodau wrth iddynt siarad am eu diddordebau. Bu’r cyfarfod yn hwyl o’r dechrau i’r diwedd wedi ei lywyddu’n fedrus gan Carys Lake mewn dull afieithus, llawn talent.

Gill Morris oedd y cyntaf i siarad. Coginio ac addurno cacennau oedd ei diddordeb hi. Dangosodd luniau o’r holl gacennau a wnaeth ac fe’n syfrdanwyd gan geinder a safon ei gwaith. Roedd ei dawn a’i hamynedd yn destun edmygedd gan bawb.

Newidiwyd cywair y noson gan Pat Jones a’r tro ‘ma roedd rhaid i bawb gymryd rhan mewn ymarferion corfforol. Yn sicr, ‘roedd ein cymalau yn llawer mwy hyblyg ar ôl y sesiwn.

Pwy ond yr amryddawn Cathi Jones allai ein diddanu gyda’r fath hiwmor wrth siarad am yr ‘hwfer’? Nid hwfer cyffredin mohono ond un mewn gwisg laes doli! Cafwyd wledd wrth weld ei dawn greadigol drwy luniau o’r ty doli gyda’r holl fanylion. Rhyfeddod yn wir oedd sut y llwyddodd i gynnwys yr holl ddodrefn (a wnaethpwyd ganddi ) tu mewn i’r ty.

Roedd sgwrs Margaret Humphreys am yr ‘Olwyn Fewnol’ yn ddifyr dros ben. Cyflwynodd y manylion am y mudiad yn huawdl iawn. Elfen bwysicaf y mudiad yw cyfeillgarwch a hynny’n cynnwys pawb yn ddiwahân.

Newid cywair unwaith eto. Mwynhawyd sgwrs oedd yn dal diddordeb pawb gan y ffasiynol Rowena. Gwelwyd lun hyfryd ohoni hi a’i mam a sylweddolwyd mai ei mam a blannodd yr hedyn o hoffter o ddillad yn Rowena. Dangosodd rai dillad o’i heiddo a chyflwynodd y cyfan mewn dull cartrefol a hwyliog.

Diolchwyd yn gynnes gan Ifanwy i’r bum siaradwraig ffraeth am noson gofiadwy. Melys moes mwy!

The Church of Jesus Christ of Latter-day Saints

Next Sunday in our Penamser Estate chapel: 10am, main preaching service with bilingual communion; 11.20am, Sunday School (for all ages); 12.10pm, Section meetings (men, women, youth, children)

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]