THE latest community news from Pwllheli

Merched y Wawr

AETH 27 o aelodau i Bant Du, Penygroes ar 6 Rhagfyr i fwynhau cinio Nadolig. Croesawyd pawb gan Christine ac wedi gras, bu pawb wrthi’n mwynhau’r bwyd blasus iawn.

Yna cafwyd caneuon gan Gwenan Gibbard â phawb yn canu carolau. Dathliad Nadolig gwych.

Bu raffl a’r enillydd oedd Menna a rhoddwyd potel afal yn anrheg i bawb.

Capel y Drindod

Gwener, 14 Rhagfyr – 10yb, Cyfarfod Gweddi Undebol; 7yh, Cymdeithas Ddiwylliannol.

Sul, 16 Rhagfyr – 10yb, gwasanaeth Nadolig yng ngofal y plant; 2yp, ysgolion Sul yr oedolion; 5yh, gwasanaeth Nadolig yng ngofal yr ieuenctid; 7yh oedfa’r ddwy ofalaeth.

Llun, 17 Rhagfyr – 6yh, Clwb y Plant; 7.30yh, seiat yr ofalaeth.

Mercher, 19 Rhagfyr – 7yh, Clwb Ieuenctid.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]