THE latest community news from Pwllheli
Capel y Drindod
MERCHER, 19 Rhagfyr: 7yh, Clwb Ieuenctid.
Gwener, 21 Rhagfyr: 10yb, Cyfarfod Gweddi Undebol; 7yh, Cymdeithas Ddiwylliannol.
Sul, 23 Rhagfyr: 10yb, Gwasanaeth Nadolig yng ngofal Ysgol Sul yr Oedolion; 5yh, Gwasanaeth Nadolig yng ngofal y Chwiorydd.
Mawrth, 25 Rhagfyr: 10yb, Oedfa Undebol.
Aelwyd Chwiorydd - Capel y Drindod
CYNHALIWYD ffair Nadolig y capel, nos Fawrth, 27 Tachwedd.
Llywydd y noson oedd Nia Williams.
Agorwyd y noson yn swyddogol gan Griff T Owen, bu iddo sôn am waith diflino y chwiorydd i’r capel ac annogodd pawb i wario.
Yr oedd y stondinau arferol yn llawn o nwyddau a chafwyd cefnogaeth dda i’r achlysur.
Diolch i bawb am ei haelionni parod eto eleni.
Prynhawn Llun, 7 Rhagfyr, dathlodd y Chwiorydd y Nadolig drwy ymweld â Tyddyn Sachau am baned, cacen a gwario.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





-(1).jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.