THE latest community news from Pwllheli

Merched y Wawr

LLYWYDD y cyfarfod yn Becws Islyn, Aberdaron oedd Mair Lloyd Davies.

Dylino fu 24 ohonom, sôn am hwyl. Y ddwy dorth orau oedd gan Lydia a Megan, ond roedd pawb gyda thorth da iawn i fynd gartref.

Ar ôl yr hwyl yma, cafwyd sgwrs gan Geraint am hanes cychwyn y Becws a’r cynlluniau i’r dyfodol gyda’r Becws a’r Hen Felin.

Diolchwyd i Geraint a Gillian am eu holl waith ac am cadw a rhedeg Becws Cymreig mewn pentref arbennig.

Darllenwyd llythyr o’r Mudiad yn llongyfarch ein cangen am derbyn Canmoliaeth Uchel yng nghystadleuaeth Rhaglen y Flwyddyn.

Bu Mair Williams a Mair Lloyd Davies yn trafeilio i Machynlleth i dderbyn tystysgrif ar 18 Mai.

Y ddwy fu’n gyfrifol am yr holl waith gyda’r rhaglen a Mair Williams a’i syniadau gwych bob blwyddyn gyda chynllun y clawr; roedd pawb yn hynod balch trostynt.

Anfonwyd cofion a’n cydymdeimlad at Mary Lloyd Griffith sydd yn Plas y Don, bu iddi golli chwaer yn ddiweddar. Llongyfarchwyd Lena Pritchard ar briodas ei hwyres. Diolchwyd i Ifan am ein cludo yna ac edrych ar ein holau yn ei ffordd annwyl fel yr arfer.

Ar fore Iau, 6 Mehefin cychwynodd 20 o aelodau am Lanberis. Cafwyd paned ar y ffordd yn Caffi Bryncir.

Yna cafodd pawb het caled a pharatoi am y siwrnau bws i mewn i’r Mynydd Gwefru, taith ychydig llai na awr.

Taith ddiddorol, oedd yn agor llygaid ar yr holl waith sy’n mynd ymlaen i ni gael hamddena a gwylio teledu.

Yn tywys y criw o gwmpas ‘roedd Wyn Peate a Ken. Cafodd pawb amser da yng nghwmni’r ddau.

Wedyn ymlaen i Westy’r Fictoria am ginio, rhai yn mwynhau cinio dau cwrs a lleill yn mentro tri chwrs a paned i orffen.

Capel y Drindod

GWENER, 21 Mehefin: 10yb, Cyfarfod Gweddi Undebol.

Sul, 23 Mehefin: 10yb, Parch Gwyn Rhydderch; Ysgolion Sul fel arfer; 5yh, Dafydd Iwan.

Mawrth, 25 Mehefin: 7yh, Y Sied.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]