THE latest community news from Pwllheli
Capel y Drindod
GWENER, 16 Mawrth: 10yb, Cyfarfod Gweddi Undebol.
Sul, 18 Mawrth: 10yb a 5yh, Oedfaon yng ngofal y gweinidog; Ysgolion Sul fel arfer; 7yh, Oedfa’r Ddwy Ofalaeth.
Llun, 19 Mawrth: 10.30yb, Oedfa Undebol y Grawys yng Nghapel Penlan; 6yh, Clwb y Plant.
Mawrth, 20 Mawrth: 7yh, Y Sied.
Mercher, 21 Mawrth: 7yh, Clwb Ieuenctid.
Merched y Wawr
GAN i’r gangen gael ei sefydlu ym mis Mawrth 1968, cafwyd dathliad pen-blwydd yn 50 gyda swper wedi ei baratoi gan yr aelodau yn Festri’r Drindod nos Iau, 8 Mawrth.
Croesawyd Elizabeth Williams, llywydd y rhanbarth, ac aelodau o gangen Efailnewydd, i fwynhau adloniant o ganeuon amrywiol, datganiad ar y ffliwt, dawns y glocsen, darlleniadau a sgets gan bedair merch ysgol ddawnus iawn o Lanrug, dan ofal Christine Jones, yr ysgrifenyddes.
Wedi cael gair o ddwyn atgofion am y blynyddoedd cynnar gan bedair o’r aelodau gwreiddiol, sef Lydia Jones, Mair Lloyd Davies, Lena Pritchard a Iona Wyn Roberts, a sgwrsio a swpera wrth y byrddau oedd wedi eu haddurno gyda Chennin Pedr wrth i ni gofio Gwyl Dewi, a man anrhegion i Ddathlu’r Aur, rhannwyd tamaid o’r gacen ben-blwydd i bawb.
Diolchodd y llywydd Enid Roberts i’r oll oedd wedi cymryd rhan i wneud y noson yn llwyddiannus gan fynegi balchder o weld Margaret Gruffydd a Mair Williams yn ôl wedi salwch.
Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 5 Ebrill gyda Rhiannon Parry, a’i thestun ‘Llysiau Llesol’.
Capel y Penlan
DYDD Sul, 18 Mawrth: 5yh, oedfa yng ngofal y Parch Dewi Morris, Porthmadog.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.