THE latest community news from Talgarreg

Capel y Fadfa

CYNHALIWYD yr oedfa ddydd Sul diwethaf am 10.30yb, pryd y cafodd y Parch Wyn Thomas gyfle i weini’r cymun am y tro diwethaf eleni.

Cafwyd gan y gweinidog neges amserol a phwrpasol iawn.

Estynnodd gydymdeimlad â theulu Sally Davies a fu farw’r wythnos ddiwethaf ac â theulu T?’r Ysgol ar farwolaeth brawd Enfys yr wythnos ddiwethaf.

Cymdeithas Undodaidd

FORE Sadwrn diwethaf roedd Festri Capel Llwyn fel grotto Sion Corn gan fod gwahoddiad cynnes wedi ei estyn i bawb oedd yn gysylltiedig â chapeli ardal y Smotyn Du i ddod at ei gilydd er mwyn pacio anrhegion Nadolig i’r anghenus.

Gofynnwyd yn garedig i bobl ddod ag anrhegion i blant ac i oedolion megis teganau, menyg neu sgarff, eitemau ymolchi ac yn y blaen. Hefyd gofynnwyd am fwydydd sych, megis caniau, pasta, reis ac ati.

Roedd yr eitemau yn cael eu rhoi mewn bocsys esgidiau ac yn cael eu cyflwyno i Fanc Bwyd Llandysul, Canolfan Digartref yn Abertawe a Chymorth i Ferched Aberteifi ac Aberystwyth, ynghyd â’r elusennau Mind a Home Start.

Hyfryd oedd gweld y gefnogaeth gyda’r prosiect pwysig hyn er mwyn i ni ddangos anogaeth a chariad tuag at eraill dros ?yl y Nadolig.

Roedd dros 100 o focsys wedi cael eu gwneud lan a’u pacio mewn papur Nadolig, hefyd sawl eitem o ddillad a fydd yn cael eu cyflwyno i’r digartref.

Cyflwynodd llywydd yr Undodiaid ardal y Smotyn Du, sef Morwen Thomas, siec i weithwraig o’r elusen Mind, sef elw’r boreau coffi a gynhaliwyd yn gynharach yn y flwyddyn, ynghyd â pheth arian o’r daith gerdded flynyddol.

Canu Gwlad

NOS Sadwrn braf oedd cael croesawi Tudur Wyn yn ôl i Dafarn Glanyrafon ar wahoddiad Hefin a Megan.

Cymeriad llawen, sy’n canu ac yn dweud ambell i jôc yw Tudur.

Cafwyd noson dda o adloniant hwylus yn ei gwmni yn ôl yr arfer â’r stafell yn llawn.

Nos Sadwrn fydd y ddeuawd Daf a Lisa yn ôl yn canu yno.

Dyma’r ddeuawd sy’n canu mor debyg i Tony ac Aloma ac sydd yn werth eu clywed.

Bydd elw’r ddwy noson yn mynd tuag at waith Ymchwil Cancr

Cylch Meithrin

NOS Fercher, 5 Rhagfyr, am 7.30yh cynhelir noson o gaws a gwin ac ocsiwn yn Nhafarn Glanyrafon gyda holl elw’r noson yn mynd tuag at y Cylch Meithrin lleol.

Cwis Nadolig

NOS Wener, 14 Rhagfyr, cynhelir cwis Nadolig yn Nhafarn Glanyrafon am 7.30yh.

Hyd at bedwar mewn tîm gyda thâl o £5 ar ran bob tîm.

Bydd y tîm buddugol yn ennill £20 a bydd elw’r noson yn mynd tuag at Ruth Taylor (Thomas gynt) a’u theulu.

Bydd y cwestiynau yn cael ei holi yn y Gymraeg a’r Saesneg.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]