THE latest community news from Talgarreg

Capel y Fadfa

CYNHELIR oedfa arbennig ddydd Sul nesaf am 1.30yp pan fydd y gweinidog, y Parch Wyn Thomas yn derbyn aelodau newydd.

Bydd cyfle iddo rannu’r Cymun yn ystod y gwasanaeth neilltuol hwn hefyd.

Os ydych yn gwybod am unrhyw un sydd am ddod yn aelod cyflawn o’r capel, plîs ewch mewn cysylltiad â’r gweinidog mor fuan â phosib.

Croeso cynnes i bawb i’r oedfa olaf o’r flwyddyn yn ein capel.

Diolch i bawb am bob cymorth a gweithred adeg y Noson Gaws a Gwin a gynhaliwyd yn ddiweddar.

Da oedd clywed i’r noson ddod ag arian sylweddol i goffrau’r capel

Canu Gwlad

NOS Sadwrn bu’r ddeuawd Daf a Lisa yn ôl yn canu yn Nhafarn Glanyrafon ar wahoddiad Hefin a Megan.

Roedd pawb wedi mwynhau’n fawr iawn a bydd elw’r noson yn mynd tuag at Ymchwil Cancr.

Cylch Meithrin

NOS Fercher diwethaf cynhaliwyd Noson o Gaws a Gwin ac Ocsiwn yn Nhafarn Glanyrafon, gyda’r holl elw’n mynd tuag at waith y Cylch Meithrin lleol.

Roedd yno eitemau hyfryd ar gael yn yr ocsiwn, felly cyfle i brynu rhai anrhegion Nadoligaidd.

Mae’n bwysig codi cymaint o arian â phosib i’r Cylch, er mwyn i blant bach yr ardal gael dechreuad da yw haddysg.

Cafwyd noson hwylus iawn â phawb wedi mwynhau.

Cwis Nadolig

NOS Wener cynhelir Cwis Nadolig yn Nhafarn Glanyrafon am 7.30yh.

Hyd at bedwar mewn tîm gyda thâl o £5 ar ran bob tîm, gyda’r tîm buddugol yn ennill £20.

Bydd elw’r noson yn mynd tuag at Ruth Taylor (Thomas gynt) a’i theulu.

Bydd y cwestiynau yn cael ei holi yn y Gymraeg a’r Saesneg, felly ymunwch yn hwyl yr ?yl ac i godi arian tuag at achos da.

Mae croeso unrhyw un ddod â thîm i gystadlu, felly ewch amdani.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]