THE latest community news from Talgarreg

Capel y Fadfa

AR ddydd Sul, 16 Mehefin, bydd y Parch Wyn Thomas yn arwain yr oedfa yng Nghapel Soar y Mynydd am 2yp a braf fyddai petai rhai aelodau o’i gapeli yn medru mynd lan am orig i’r gwasanaeth i gefnogi ein gweinidog.

Felly ni fydd oedfa yng Nghapel y Fadfa tan ddydd Sul, 30 Mehefin am 1.30yp, pryd y cynhelir Cwrdd Pawb Ynghyd gyda’r Parch Wyn Thomas yn gwasanaethu.

Bydd te a chacennau yn cael eu gweini yn y Festri yn dilyn yr oedfa flynyddol hon.

Cymdeithas Alzheimer’s

FORE Sadwrn nesaf cynhelir bore coffi yn y neuadd o 9.30yb i 11.30yb er budd yr elusen Alzheimer’s.

Dewch i gefnogi’r achos pwysig yma - rydym i gyd yn adnabod rhywun sy’n dioddef o’r afiechyd ofnadwy yma.

Mae pob cyfraniad yn help.

Cylch Meithrin

AR ddydd Gwener, 21 Mehefin bydd parti penblwydd Sali Mali yn cael ei gynnal yn y neuadd o 1.30yp i 3.15yp.

Bydd Sali Mali ei hun yn dod ar ymweliad i ganu ac i ddawnsio gyda’r plant bach.

Yna yn yr hwyr, dewch draw i Dafarn Glanyrafon erbyn 7.30yh am gêm o bingo i godi arian tuag at y Cylch Meithrin lleol, sy’n gwneud gwaith gwych gyda’r plantos bach.

G?yl y Pentref

BYDD yr ?yl yn dechrau eleni ar nos Wener, 12 Gorffennaf gyda’r helfa drysor o amgylch y pentref ar droed.

I ddilyn ar y dydd Sadwrn cynhelir y carnifal a’r mabolgampau a Ras Sion Cwilt a bydd rownderi a barbeciw yn dilyn y ras fawr. Dewch yn llu i’r digwyddiadau hyn sydd fel arfer yn llawn sbri.

Am ragor o fanylion cysylltwch â Catrin Owens-Evans, Allana Silvestri-Jones neu Kathleen Griffiths.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]