THE latest community news from Talgarreg

Capel y Fadfa

YN ddiweddar cynhaliwyd Cwrdd Undebol i aelodau Capeli Bröydd Marles a Gwenog yn Hen Gapel Llwynrhydowen am 2yp dan ofal ein gweinidog, y Parch Wyn Thomas.

Cafwyd neges amserol a phwrpasol ganddo ar y thema ‘parchu gwerth pethau’. Yr organyddes oedd Sian Jones.

Hyfryd oedd gweld cymaint wedi troi allan ar ddiwrnod mor braf. Ar ddiwedd yr oedfa cafwyd mefus a hufen allan yn yr haul pleserus.

Dymunodd y gweinidog yn dda i Gwenno, Lluest Newydd sydd wedi mynd allan i Ganada am flwyddyn i astudio.

Bydd yr oedfa nesaf yn y capel uchod ar ddydd Sul, 17 Medi am 3yp.

Neuadd Goffa

CYNHELIR noson yn y Neuadd Goffa dan yr enw ‘Miri Medi’ am 6.30yh. Bydd Ras Peli i gychwyn ac i ddilyn cynhelir pryd dau gwrs ac adloniant gan Mari Mathias.

Tocynnau yn £10 i oedolion, £5 i blant ysgolion uwchradd a £2 i blant ysgolion cynradd.

Noson o hwyl i’r teulu cyfan i ddod i fwynhau ac i godi arian tuag at gynnal a chadw’r neuadd. Os am docynnau cysylltwch mor fuan â phosib ag aelodau’r pwyllgor.

Gwyl Ysgolion Sul

DEWCH yn llu i gefnogi pobl ifanc yr enwad mewn diwrnod i’w fwynhau lawr yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan, ddydd Sul.

Bydd yna Wyl Fwyd hefyd yn ystod y dydd, felly rhywbeth at ddant pawb.

Archebwch eich lle ar y bws drwy gysylltu â’r Parch Wyn Thomas, gan y bydd ein gweinidog yn cynnal gwasanaeth yn Hen Gapel Undodaidd Penrhiw yn ystod y prynhawn.

Y Pensaer o’r Smotyn Du

NOS Sadwrn diwethaf roedd rhaglen ddiddorol ar y teledu yn olrhain hanes y pensaer Frank Lloyd Wright, sydd â’i wreiddiau teuluol yn ardal y Smotyn Du.

Braf oedd clywed y Parch Wyn Thomas yn siarad am yr enwad Undodaidd â’r cysylltiad roedd rhwng Frank Lloyd Wright a hen Gapel Llwynrhydowen.

Rhaglen ddifyr a oedd yn mynd ar drywydd bywyd diddorol a llawn y gwr hanesyddol a oedd wedi gwneud enw mawr iddo ei hun yn yr Amerig.

Canu Gwlad

BYDD Tudur Wyn yn ôl yn diddanu yng Ngwesty Glanyrafon nos Sadwrn, ar wahoddiad Hefin a Megan.

Dyma noson arall llawn hwyl, gyda chanu swynol a jôcs doniol.

Sioe Hen Beiriannau

ELENI eto cynhelir Sioe Hen Beiriannau gweithiol a chynnyrch ar gae Coed Fardre, Bwlchyfadfa, trwy garedigrwydd Iwan Evans, ar ddydd Sadwrn, 16 Medi, i gychwyn am 9yb. Thema’r dydd fydd certi a hen whilberi.

Mae rhywbeth at ddant pawb yng nghystadlaethau’r dydd, gan gynnwys lluniaeth a bar.

Bydd yno hefyd arddangosfa o hen geir a pheiriannau, felly ewch i fwynhau diwrnod cyfan o ddigwyddiadau ac i gael cyfle i gwrdd â hen ffrindiau i gymdeithasu.

Cymanfa Fodern

MAE Adran Talgarreg yn cynnal Cymanfa Ganu Fodern yn Eglwys Talgarreg ar nos Sul, 1 Hydref am 7.30yh. Yr arweinydd fydd Elin Dafydd a’r artistiaid fydd aelodau a chyn-aelodau Adran Talgarreg, CFfI Pontsian a CFfI Caerwedros. Y llywydd fydd Ffion Hughes (Bodwenog gynt).

Bydd holl elw’r noson yn mynd tuag at Uned Cemotherapi, Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]