THE latest community news from Talgarreg
Capel y Fadfa
CYNHALIWYD yr oedfa ddydd Sul diwethaf am 3yp gyda’n gweinidog, y Parch Wyn Thomas yn rhannu’r cymun.
Cafwyd neges amserol a oedd yn ein cynghori pa mor bwysig yw cael rhai munudau o dawelwch yn ein bywydau ac yw gwerthfawrogi.
Wrth yr organ oedd Enfys Llwyd.
Mae yna gais i bawb sydd â chysylltiad â’r capel ac sydd yn medru dod nos Lun nesaf i dorri porfa ac i wneud gwaith cynnal a chadw o gwmpas y capel a’r fynwent.
Os fydd hi’n bwrw glaw ar y noson hon, pawb i ddod ar y noson sych cyntaf ar ôl hynny.
Bydd yr oedfa nesaf ar ddydd Sul, 8 Hydref, am 1.30yp, pan fydd y Parch Eirian Wyn Lewis yn ein harwain yn ein Cwrdd Diolchgarwch. Croeso i bawb i’r oedfa arbennig hon.
Neuadd Goffa
COFIWCH gysylltu os hoffech gefnogi’r neuadd a cheisio ennill gwobrau drwy’r flwyddyn wrth ymuno â Chlwb 100 y neuadd, sy’n fargen am £6 y flwyddyn.
Bydd y clwb yn dechrau ar flwyddyn newydd ddiwedd Medi, felly cysylltwch gyda’r aelodau i chi gael eich ffurflen ymaelodi mor fuan â phosib.
Canu Gwlad
NOS Sadwrn bydd y ddeuawd Daf a Lisa yn diddanu unwaith eto yng Ngwesty Glanyrafon ar wahoddiad Hefin a Megan.
Sioe Hen Beiriannau
YN anffodus bu’n rhaid gohirio’r Sioe Hen Beiriannau gweithiol a chynnyrch ar gae Coed Fardre, Bwlchyfadfa, drwy garedigrwydd Iwan Evans, ddydd Sadwrn.
Gobeithir i’w ail-drefnu ar gyfer dydd Sadwrn, 30 Medi, i ddechrau am 9yb. Thema’r dydd fydd certi a hen whilberi.
Mae rhywbeth at ddant pawb yng nghystadlaethau’r dydd, gan gynnwys lluniaeth a bar.
Bydd yno hefyd arddangosfa o hen geir a pheiriannau.
Dewch i fwynhau diwrnod cyfan o ddigwyddiadau ac i gwrdd â hen ffrindiau i gymdeithasu.
Cymanfa Fodern
MAE Adran y Pentre’ yn cynnal Cymanfa Ganu Fodern yn Eglwys Dewi Sant ar nos Sul, 1 Hydref am 7.30yh.
Yr arweinydd fydd Elin Dafydd a’r artistiaid fydd aelodau a chyn-aelodau Adran Talgarreg, CFfI Pontsian a CFfI Caerwedros.
Y llywydd fydd Ffion Hughes (Bodwenog gynt).
Bydd holl elw’r noson yn mynd tuag at Uned Cemotherapi, Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





1.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.