THE latest community news from Talgarreg
Capel y Fadfa
OEDFA Cymun ddydd Sul am 1.30yp gyda’n gweinidog, y Parch Wyn Thomas.
Codi arian
DDYDD Sadwrn diwethaf cynhaliwyd dau ddigwyddiad tuag at yr elusen Mind: bore coffi yng Nghapel y Groes ac yna prynhawn agored yng Nghapel y Bryn.
Braf cyhoeddi i £456.50 gael ei godi a diolch i aelodau’r enwad am eu cefnogaeth.
Cawl a Chân
OHERWYDD y tywydd gaeafol bu’n rhaid ail-drefnu’r noson o Gawl a Chân yn y Neuadd Goffa, i nos Sadwrn diwethaf.
Plant yr Ysgol Feithrin a disgyblion yr Ysgol Gynradd oedd yn diddanu ac ni chafodd neb eu siomi, gan fod y rhain mor arbennig ar y llwyfan bob amser.
Hyfryd oedd gweld cynulleidfa mor lluosog wedi troi allan i gefnogi.
Noson o Ddramâu
AR nos Wener, 23 Mawrth bydd Cwmni Drama Llandudoch yn perfformio ar lwyfan y Neuadd Goffa. Cynhelir y noson dan nawdd Capel Pisgah.
Cwis Pasg
NOS Iau, 29 Mawrth cynhelir Cwis Pasg yn Nhafarn Glanyrafon am 7.30yh. Hyd at bedwar aelod mewn tîm, £5 y person; bydd y tîm buddugol yn ennill £20. Holl elw’r noson tuag at Elusennau’r Gymdeithas Hen Beiriannau.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.