THE latest community news from Talgarreg

Cwrdd y Gwanwyn

DDYDD Sul diwethaf aeth Undodiaid ardal y Smotyn Du i Gapel Brondeifi yn rhan o Gwrdd Gwanwyn y Gymdeithas. Y Parch Alun Wyn Dafis oedd yng ngofal yr oedfa.

Cafwyd neges am heddwch gan yr ieuenctid ac i ddilyn aeth y Parch Alun Wyn â’r gynulleidfa yn ôl i ddyddiau cychwynnol y Gymdeithas gydag Iolo Morgannwg, Josiah Rees a David Davies, gan mae’r tri yma wnaeth ddechrau’r gymdeithas dros 200 mlynedd yn ôl.

Rhoddwyd y fendith ar y diwedd gan weinidog anrhydeddus y capel, y Parch Goronwy Evans.

Wedi’r cwrdd cynhaliwyd Pwyllgor Gwaith y gymdeithas, hwn oedd y pwyllgor olaf i Nans Davies fod yn llywydd arno, gan fod ei dwy flynedd wedi dirwyn i ben ac ar ddiwedd y pwyllgor trosglwyddodd y gadwyn ymlaen i’r llywydd newydd, Morwen Thomas.

I ddilyn roedd te i bawb yn y festri a rhoddwyd diolch amdano gan Morwen Thomas.

Ennill cadair

DAETH enw Cen Llwyd, Ty’r Ysgol i’r brig unwaith eto gan iddo ennill y gadair yn Eisteddfod Bryngwenith – bydd angen silff arall cyn bo hir yn Nhy’r Ysgol i ddal yr holl gadeiriau.

Taith Tractorau

CYNHELIR Taith Tractorau Cylch Meithrin a Ti a Fi ar ddydd Sul, 3 Mehefin. Bydd modd cofrestru yn Neuadd Talgarreg o 10yb a bydd y daith yn dechrau am 11yb, gyda rholiau bacwn, cacennau a raffl ar gael.

Bydd cinio i ddilyn y daith yn Nhafarn Glanyrafon, Talgarreg. Croeso i bawb.

Gwyl y Pentref

BYDD Gwyl y Pentref yn dechrau ar nos Wener, 29 Mehefin a’r Carnifal ar ddydd Sadwrn, 30 Mehefin; rhagor o fanylion i ddod maes o law.

Cylch Meithrin a Ti a Fi

ENILLWYR y Clwb 100 am Chwefror: 1, John ac Olwen Evans; 2, Rhian Morris; 3, Emily Venville.

Mawrth: 1, Llyr Rees; 2, Rhun a Non; 3, Tommy Thomas.

Ebrill: 1, Eric a Carol Rees; 2, Mali, Ifan a Lois; 3, Teleri Morris Thomas.

Eisteddfod

CYNHELIR Eisteddfod Gadeiriol Capel y Fadfa ddydd Sadwrn yn Neuadd Goffa’r pentref.

Y beirniaid fydd Sue Hughes, Peniel (cerdd), Geraint Hughes, Peniel (llefaru); Prifardd Idris Reynolds (llên) a Robert Blayney (arlunio).

Jonathan Morgan fydd yn cyfeilio a llywydd y dydd fydd Geraint Evans, Caerfyrddin.

Os am ragor o fanylion, cysylltwch ag Emyr ar 01545 590383 neu Enfys ar 01545 590295.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]