THE latest community news from Trefor

Y Sul

FESTRI Maesyneuadd: Dim Ysgol Sul; 5.30yh, Arawn Glyn, y Ffôr; bore Gwener y Groglith, 10am, Oedfa Gymun o dan arweiniad y Parch Robert Roberts, Morfa Nefyn.

Croeso i bawb i’r ddwy oedfa.

Mae llun plant yr Ysgol Sul mewn cylchgrawn bach gan Cymorth Cristnogol.

Dros y Nadolig fe wnaethon nhw lwyddo i godi digon o arian i bryn 48 o foch i’w rhoi i deuluoedd yng Nghambodia.

Ar hyn o bryd, mae’r Ysgol Sul yn casglu dillad ar gyfer ffoaduriaid a phensiliau, creons a phinnau ffelt ar gyfer wardiau plant Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Alder Hey.

Os gallwch chi gyfrannu, dewch â’r eitemau i’r capel neu i Llinos.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]