MAE Cyngor Ceredigion wedi cydnabod canlyniadau siomedig y Cyfrifiad mewn perthynas â nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir yn dilyn cyfarfod gydag ymgyrchwyr iaith.
Cynhaliodd Cymdeithas yr Iaith gyfarfod agored ddydd Sadwrn, 21 Ionawr, a fynychwyd gan amrywiol aelodau o Gyngor Sir Ceredigion, gan gynnwys yr arweinydd, y Cynghorydd Bryan Davies, ynghyd ag Aelod Seneddol y sir, Elin Jones.
Dangosodd ffigurau cyfrifiad a ryddhawyd ym mis Rhagfyr bod Ceredigion wedi gweld gostyngiad o ddau y cant yn nifer y siaradwyr Cymraeg rhwng 2011 a 2021.
Eglurodd y cyngor mewn datgainiad i’r Cambrian News: “Mae’r cyngor yn cydnabod canlyniadau siomedig y Cyfrifiad mewn perthynas â nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir.
“Mae Cyngor Sir Ceredigion eisoes wedi cymeradwyo Strategaeth Gorfforaethol 2022-2027. Mae’r Strategaeth Gorfforaethol yn nodi Amcanion Llesiant Corfforaethol y cyngor sydd â’r nod o wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol dinasyddion Ceredigion.
“Y pedwar Amcan Llesiant Corfforaethol yw:
• Hybu’r Economi, Cefnogi Busnesau a Galluogi Cyflogaeth
• Creu Cymunedau Gofalgar ac Iach
• Darparu’r Dechrau Gorau Mewn Bywyd a Galluogi Pobl o Bob Oed i Ddysgu
• Creu Cymunedau Cynaliadwy a Gwyrdd sydd wedi’u Cysylltu’n Dda â’i Gilydd
“Bydd y cyngor yn cyfeirio ei adnoddau i’r meysydd hyn er mwyn ailfywiogi’r economi leol a darparu amgylchedd ffyniannus, iach, diogel a fforddiadwy y gall dinasyddion a chymunedau Ceredigion ffynnu ynddo.
“Mae’r cyngor eisoes wedi rhoi ar waith nifer o brosiectau a strategaethau bydd yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc Ceredigion gallu byw a gweithio yng Ngheredigion.
“Mae hyn yn cynnwys denu buddsoddiadau i’r sir nifer o grantiau, gan gynnwys Cynllun Arfor, Tyfu Canolbarth Cymru, y Gronfa Ffyniant Bro a Gronfa Adfywio Cymunedol. Mae’r cyngor hefyd yn darparu ystod eang o opsiynau tai fforddiadwy o fentrau ar gyfer rhentu neu berchen ar dŷ.
“Yn ogystal, bydd Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg nesaf Ceredigion yn strategaeth 10 mlynedd o hyd, 2022-2032, a bydd yn ceisio atgyfnerthu a chryfhau darpariaeth yr iaith Gymraeg a chyrraedd y targed sydd wedi’i osod gan Lywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050.
“Nod pwysig yw sicrhau bod disgyblion yn gyfathrebwyr hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg erbyn diwedd Cyfnod Allweddol 2 (blwyddyn 6) pan maent yn symud o addysg gynradd i addysg uwchradd.
“Mae’r darged o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn gydnabyddiaeth o’r ymdrechion a’r gwaith sydd ei angen i gynnal y Gymraeg ac i ni yn benodol yng Ngheredigion yr ymdrech i gynnal ein cymdeithasau dwyieithog. Croesewir ymdrechion unrhyw gorff neu grŵp arall sy’n gweithio tuag at yr un nôd.”




.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.