CAFODD cyfrol am gefn gwlad a’r ddinas, am golli a dal gafael ac am gariad a dialedd ei chyhoeddi yr wythnos yma. Yn fyw yn y cof (Y Lolfa) yw ail nofel John Roberts.
Roedd beirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod AmGen eleni yn llawn canmoliaeth, a bron iddi gipio’r wobr yn y gystadleuaeth honno.
Meddai Aled Islwyn, un o feirniaid y gystadleuaeth: “Gyda llond trol o gymeriadau credadwy a’r tudalennau’n pefrio gan enwau difyr y ffermydd a’r tyddynod... teg tybio bod yr awdur wedi hen ymdrwytho ym mytholeg ‘yr hen ffordd Gymreig o fyw’. Ond g?yr hefyd y gall dogn dda o surni fod ynghudd o dan bob melystra... does dim amheuaeth and yw hon yn nofel gyfoes swmpus o safon.”
A dywedodd Gwen Pritchard Jones, beirniad arall y gystadleuaeth: “Mae strwythur diddorol iawn i’r nofel hon, gyda’r heddiw, ddoe ac echdoe yn fodd i adrodd hanes tair cenhedlaeth o’r un teulu.”
Mae’r nofel yn adrodd hanes Anti Glad sy’n ffermio Tyddyn Bach, ei nai Iorwerth sy’n newid cyfeiriad ar ôl marwolaeth ei fodryb a Bethan, y ferch sy’n wynebu sawl croesffordd mewn bywyd.
Dywed yr awdur: “Mae Yn fyw yn y cof yn stori am dair cenhedlaeth – Anti Glad, Iorwerth a Bethan a chymeriadau eraill. Cawn olwg ar gymunedau gwahanol gyfnodau, cawn rannu llawenydd a dagrau, rhannu mwynhad trysori’r cof a phoen colli cof, ond fe welwn hefyd surni methu anghofio.”
Ni ?yr yn union o le ddaeth y syniad am y nofel ond ar un adeg bu’n byw mewn bwthyn digon tebyg i Tyddyn Bach, cartref y cymeriadau Iorwerth, Margaret a Bethan, ac Anti Glad cyn hynny.
Ychwanega: “Ond mae yna emyn sydd wedi creu penbleth i mi erioed. Mae addasiad Elfed o Nefol Dad mae eto’n nos’ yn cloi drwy ddweud ‘wedi maddau ac anghofio anwireddau f’oes i gyd’ ond nid rhywbeth ry’ch chi’n ei wneud yn fwriadol ydi anghofio – mae’r cof yn fwy mympwyol na hynny a stori am y cof ydi hon yn y diwedd, stori am anghofio a methu anghofio.”
Magwyd John Roberts ar fferm Llawr-y-dref ger Llangïan ym Mhen Ll?n. Bu’n weinidog am ddeuddeg mlynedd yn Nyffryn Ceiriog, cyn mynd yn gynhyrchydd rhaglenni crefydd ac yna yn is-olygydd BBC Radio Cymru.
Mae’n gyflwynydd y rhaglen Bwrw Golwg ers deg mlynedd ar hugain. Bellach mae wedi gadael y BBC ac yn gyfarwyddwr cwmni cynhyrchu annibynnol Tonnau Cyf.
Mae Yn fyw yn y cof gan John Roberts ar gael nawr (£8.99, Y Lolfa).







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.