OS YDYCH wedi bod yng Nghricieth yn ddiweddar, mae siawns eich bod wedi gweld y plac newydd yng nghanol y dref. Plac yw hwn i nodi Dathlu’r Aur Merched y Wawr Cricieth.

Cangen Cricieth oedd y drydedd gangen i gael ei sefydlu drwy Gymru nôl yn 1967; dyma hefyd y gangen gyntaf i gael ei sefydlu yn Sir Gaernarfon.

Mae’r plac wedi cael ei greu allan o mosaics a gwydr; aelodau o gangen Cricieth oedd yn gyfrifol am osod y mosaics ar y plac, gyda’r artist lleol Bill Swann yn gyfrifol am y darnau gwydr.

Liz Saville Roberts AS oedd yn gyfrifol am ddadorchuddio’r Plac o flaen y gynulleidfa.