Mewn datganiad ar y cyd mae Cymdeithas yr Iaith, Dyfodol i’r Iaith a Chylch yr Iaith yn mynegi pryder dwfn ynglŷn â bwriadau Adran Addysg Gwynedd mewn perthynas ag addysg cyfrwng Cymraeg.
Mae’r mudiadau’n galw am roi ysgolion uwchradd y sir yng nghategori uchaf Addysg Cyfrwng Cymraeg ac am sefydlu trefn effeithiol o fonitro. Dyma Neges Dydd Gŵyl Dewi y mudiadau iaith i Gyngor Gwynedd.
Yn dilyn cyhoeddi canllawiau Llywodraeth Cymru ar gategoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, penderfynodd swyddogion Adran Addysg Cyngor Gwynedd osod yr ysgolion uwchradd (ac eithrio Ysgol Friars ac Ysgol Tywyn) yng Nghategori 3.
Bydd ysgolion y categori hwn yn cynnig ystod eang o’u Meysydd Dysgu a Phrofiad drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd o leiaf 60% o’r disgyblion yn ymgymryd ag o leiaf 70% o’u gweithgareddau ysgol (cwricwlaidd ac allgyrsiol) yn Gymraeg.
Yn ôl y mudiadau, dydi Categori 3 ddim yn addas ar gyfer ysgolion uwchradd Gwynedd, a hynny am y rhesymau canlynol:
1. Mae’r ymadrodd ‘ystod eang’ sy’n cyfeirio at nifer y Meysydd Dysgu a Phrofiad cyfrwng Cymraeg yn gwbl annelwig ac amhendant, ac felly’n ddiffygiol fel disgrifiad ac fel canllaw i’r ysgolion
2. Mae’n nodi isafswm cwbl annigonol o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, ond ni nodir yr uchafswm. Mae’n caniatáu i gyn lleied â chwech o bob deg disgybl dderbyn llai na thri chwarter eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg, gyda bron draean drwy’r Saesneg. Nid yw’n rhoi disgrifiad o’r ddarpariaeth fydd ar gyfer y 40% arall o’r disgyblion.
3. Mae’n annigonol i wrthsefyll a gwrthweithio’r grymusterau ieithyddol a diwylliannol sy’n erydu a thanseilio strwythur a gwead cymdeithasol y bywyd Cymraeg yng nghymunedau Gwynedd.
Mae’r mudiadau yn tynnu sylw at ganllawiau Llywodraeth Cymru, sy’n nodi’n glir mai bwriad y categoreiddio newydd ydi ‘annog ysgolion i gynyddu eu darpariaeth Gymraeg ... a hwyluso’r broses i ysgolion symud i’r categori nesaf ... i ysgolion dyfu eu darpariaeth Gymraeg.’
Meddai’r datganiad ymhellach: "Dylai Cyngor Gwynedd fod yn arwain gydag Addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghymru, a dylai anelu at gynnig yr un ddarpariaeth ag ysgolion Cymraeg dynodedig mewn siroedd eraill.
"Mae’n gwbl anfoddhaol ac annerbyniol fod disgyblion Gwynedd o aelwydydd Cymraeg ac o aelwydydd di-Gymraeg yn derbyn llai o addysg cyfrwng Cymraeg na disgyblion ysgolion Cymraeg dynodedig mewn siroedd eraill.
"Mae pobl ifanc, rhieni a chymunedau Gwynedd yn haeddu ysgolion gyda’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg fwyaf cyflawn sy’n cael ei chynnig.
"Hynny fyddai’n briodol yn addysgol, yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol.
"Ni ddylid colli’r cyfle hwn.
"Heb weithredu’n awr i wrthweithio’r tueddiadau niweidiol byddant yn ein goresgyn a bydd yn rhy ddiweddar wedyn. Rhaid edrvch ar y sefyllfa’n wrthrychol ac yn onest, a gweithredu’n gadarn ac yn hyderus.’






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.