Seren Wyn Jenkins, Aberystwyth, o Ysgol Gyfun Penweddig, oedd enillydd y Fedal Gelf eleni yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Caerdydd a’r Fro.

Cyflwynir y Fedal Gelf a ddyfernir i’r uned waith fwyaf addawol o’r cystadlaethau Celf, Dylunio a Thechnoleg dan 19 oed eleni gan Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern.

Mae Seren wedi bod yn cystadlu yng nghystadlaethau celf, dylunio a thechnoleg yr Urdd ers ei dyddiau cynnar yn Ysgol Penrhyncoch ac mae wedi profi cryn lwyddiant trwy gyrraedd yr Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn ers 2010. Ond dyma’r tro cyntaf iddi ennill un o’r prif wobrau.

Fel rhan o’i hastudiaethau lefel-A yn Ysgol Penweddig, mae Seren yn astudio gwaith Bethan Gray, dylunydd gwrthrychau modern, a dyna lle daeth yr ysbrydoliaeth i ddylunio bwrdd coffi modern gyda naws Cymreig.

Cafodd ei hysbrydoli ymhellach gan waith tecstilau Josie Russell ac Edrica Huws.

Yn yr Unawd Cerdd Dant Bl 3 a 4, daeth Ela Mablen Griffiths-Jones, Ysgol Gynradd Aberaeron, yn cyntaf.

Timothy Watts, o Ysgol Gynradd Penboyr, Felindre, daeth yn cyntaf ar yr Unawd Gitâr Bl 6 ac iau.

Am fwy o luniau a chanlyniadau, gwelwch y papur