Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi grant o £600,000 ychwanegol i’r Eisteddfod Genedlaethol, i annog y defnydd o’r Gymraeg yn ein cymunedau.
Daw’r newyddion ar adeg ble roedd gofidiau am gostau cynyddol cynnal yr Eisteddfod eleni yn sgil chwyddiant, costau ychwanegol a’r pandemig, gan bydd angen mwy o gyllid i sicrhau bod y mesurau Covid 19 priodol ar waith dros y maes.
Dywedodd Elin Jones AS: “Dyma newyddion gwych iawn ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.
“Fel cadeirydd y Pwyllgor Gwaith dwi’n llwyr ymwybodol o’r heriau sydd angen i’r trefnwyr oresgyn eleni, a bydd yr arian ychwanegol yma o gymorth mawr.
Yn rhan o becyn £1m i annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn ehangach, caiff cyllid hefyd ei ddarparu i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ac eraill.