Ar ôl cyfnod o dair blynedd yn dilyn y pandemic Covid-19 daeth yr eisteddfod yn ôl er mawr llawennydd i bawb.

Cadeirydd yr eisteddfod eleni oedd AS Ceredigion Ben Lake. Yr arweinyddion oedd y Parch Carys Ann a Geraint James, Arwerthwr gyda chwmni Dai Lewis, Castell Newydd Emlyn.

Beirniaid cerdd oedd Gwawr Owen, Caerdydd a beirniad llėn a llefaru oedd Bronwen Morgan, Llangeitho.

Swyddogion pwyllgor yr eisteddfod oedd y Parch Carys Ann, Elonwy James, Jillian Jones, Anne Lewis, Brenda Jones a Nia ap Tegwyn.

Gwerthfawrogir gymorth ymarferol John Adams, Castell Newydd Emlyn; Alan Davies, Penrhiw-pâl; Emyr Jones, Castell Newydd Emlyn; Maldwyn Lewis, Penrhiw-pâl fu yn gosod y llwyfan.

Canlyniadau

Cerddoriaeth

Unawd Blwyddyn 2 ac Iau Agored. 1af Neli Evans, Henbant, Talgarreg; 2il Marged Evans, Glanllyn, Penrhiw-pāl; trydydd Non Thomas, Talgarreg.

Unawd Blwyddyn 3 – 4 Agored 1af Sara Marged Lewis, Mydroilyn. 2il Elsa Evans, Pendre, Llanfihangel y Creuddyn.

Unawd Blwyddyn 5 – 6 Agored 1af Efan Rhun Evans, Henbant, Talgarreg. 2il Iwan Marc Thomas, Pontarddulais. 3ydd Tirion Marged Thomas, Pencarreg.

Unawd Cyfyngedig i blant ysgolion cynradd sydd ā chysylltiad ā Gofalaeth y Parchedig Carys Ann. Blwyddyn 2 ac Iau. 1af Non Thomas, Talgarreg 2il Neli Evans, Henbant, Talgarreg.

Eisteddfod Bryngwenith
Cân Werin dan 16 Agored: 1, Marc Thomas; 2, Fflur McConnell (Llun wedi'i gyflenwi)

Blwyddyn 3- 6 1af Efan Rhun Evans, Henbant, Talgarreg.

Parti Unsain dan 16 oed Agored Parti Carreg y Creuddyn

Unawd Blwyddyn 7 – 11 Agored 1af Sŵyn Efa Thomas, Pencarreg. 2il Fflur McConnell, Aberaeron.

Cān Werin dan 16 oed. Agored 1af Iwan Marc Thomas, Pontarddulais. 2il Fflur McConnell, Aberaeron.

Unawd Cerdd Dant dan 16 oed Agored 1af Fflur McConnell, Aberaeron. 2il Efan Rhun Evans, Henbant, Talgarreg.

Canu Emyn dan 18 oed Agored allan o Caneuon Ffydd Meia Evans, Pendre, Llanfihangel y Creuddyn ac Efan Rhun Evans, Henbant, Talgarreg yn gydradd gyntaf. 2il Iwan Marc Thomas, Pontarddulais.

Eisteddfod Bryngwenith
Parti Unsain dan 16 oed Agored: Parti Carreg y Creuddyn (Llun wedi'i gyflenwi)

Unawd Gymraeg allan o unrhyw Sioe Gerdd 1af Fflur McConell, Aberaeron.

Canu Emyn dros 50 oed Agored – Daniel Rees, Waungilwen.

Her Unawd Gymraeg Agored – Gerwyn Rhys, Porthyrhyd.

Triawd canu Emyn dros 18 oed Agored. 1af Gwyndaf James, Bryngwyn. Daniel Rees, Waungilwen a Gerwyn Rhys, Porthyrhyd.

Llefaru

Llefaru Blwyddyn 2 ac iau. Agored. 1af Ifan Morris, 2il Bethan Llywelyn, Llanwnnen. 3ydd Neli Evans, Henbant, Talgarreg.

Llefaru Blwyddyn 3 – 4 Agored – 1af Sara Marged Lewis, Mydroilyn. 2il Elsa Evans, Pendre, Llanfihangel y Creuddyn.

Llefaru Blwyddyn 5 – 6 Agored – 1af Meia Evans, Pendre, Llanfihangel y Creuddyn. 2il Efan Rhun Evans, Henbant, Talgarreg. 3ydd Iwan Marc Thomas, Pontarddulais.

Eisteddfod Bryngwenith
Llefaru Bl 3 a 4 Agored: 1, Sara Lewis; 2, Elsa Evans (Llun wedi'i gyflenwi)

Llefaru Cyfyngedig i blant ysgolion cynradd ā chysylltiad ā Gofalaeth y Parchedig Carys Ann. Blwyddyn 2 ac iau. 1af Neli Evans, Henbant, Talgarreg 2il Non Thomas, Talgarreg.

Llefaru Cyfyngedig blwyddyn 3-6 i blant ā chysylltiad ā Gofalaeth y Parchedig Carys Ann. 1af Efan Rhun Evans, Henbant, Talgarreg.

Parti Cydadrodd dan 16 oed Agored 1af – Parti Ysgol Sul Capel Pisgah, Talgarreg.

Llefaru Blwyddyn 7 – 11 oed Agored. 1af Sŵyn Efa Thomas, Pencarreg.

Darllen Darn o’r Ysgrythur wedi ei osod ymlaen llaw ar eu cyfer – o dan 16 oed. 1af Fflur McConnell, Aberaeron. 2il Iwan Marc Thomas, Pontarddulais.

Darllen Darn o’r Ysgrythur wedi ei osod ymlaen llaw ar eu cyfer – dros 16 oed. 1af Maria Evans (gynt Alltwalis) Rhydargaeau.

Her Adroddiad Agored dros 21 oed – Carol Davies, Trebedw. 2il Maria Evans (gynt Alltwalis) Rhydargaeau.

Llenyddiaeth

Cystadleuaeth y Gadair. Cerdd ar y Testun ‘Y Darlun’ enillydd Hannah Roberts, Caerdydd.

Roedd y Gadair yn rhoddedig gan Sue a Malcolm, Caerdydd yn rhoddedig am eu rhieni Raymond a Mair Morgan, gynt o Brynteg, Llandyfriog ac £20.

Paratowyd negeseuon i gyfarch y bardd gan y prifardd Idris Reynolds, Brynhoffnant. Methodd y prifardd a bod yn bresennol serch hynny aethpwyd ymlaen â’r Cadeirio, er nad oedd y bardd buddugol Hannah Roberts, Caerdydd yn bresennol.

Eisteddfod Bryngwenith
Cystadleuwyr Unawd Bl 2 ac iau (Llun wedi'i gyflenwi)

Gwerthfawrogir arweiniad y Parch Carys Ann drwy Seremoni y Cadeirio.

Canwyd Cân y Cadeirio yn arbennig iawn gan Gwyndaf James, Bryngwyn gyda Lynn James, Adpar yn cyfeilio ac yn rhan bwysig hon o’r seremoni.

Cafwyd cystadlu brwd a darllenwyd gwaith y beirdd gyda nifer fawr yn cael y cyfle i chwerthin a gwenu ar y darnau ā’r feirniadaeth.

Gwerthfawrogir pob cyfraniad at lwyddiant y noson, y cyfraniadau Ariannol, yn arbennig Cyngor Sir Ceredigion, Pantyfedwen, ‘Emlyn Circle’ sef y Siop Cymunedol at achosion da yn nhref Castedd Newydd Emlyn, Price y pobydd Betws Ifan a Cwmni bwyd Castell Howell.

Diolch i bawb am sicrhau bod Eisteddfod Gadeiriol Capel Bryngwenith Ebrill 2023 yn llwyddiant ysgubol.

Ydych chi'n aelod o grŵp yn eich cymuned? Oes gennych newyddion, lluniau a fideos i'w rhannu? Anfonwch nhw i [email protected]