gan Elain Fflur, trefnydd sir CFfI Meirionnydd
Gyda dros ddeunaw mis o beidio cael digwyddiadau wyneb yn wyneb, doedd dim stop ar Ffermwyr Ifanc Meirionnydd unwaith daeth y cyfyngiadau i ben. Mae’n sicr dweud bod yr aelodau wedi methu’r bwrlwm, cymdeithasu a’r cythrel cystadlu! Felly dyma hanes y mudiad dros dymor yr Hydref.
Y digwyddiad cyntaf oedd ar ddiwedd fis Medi yn Nh? Mawr Tafolog, lle cafwyd cyngerdd gwerth chweil gan yr aelodau gyda Tudur Gwanas yn arwain.
Yna buan iawn daeth bwrlwm yr eisteddfod. Cynhaliwyd yr eisteddfod yn Neuadd Dyfi ar 6 Tachwedd, ac am y tro cyntaf ers sawl blwyddyn bellach penderfynwyd cynnal eisteddfod a’r cystadlaethau ysgafn yn un digwyddiad. Er oedd hyn yn waith caled iawn i’r aelodau i baratoi ni chafodd y cynulleidfa eu siomi. Ond nid y gynulleidfa oedd yn bresennol yn Neuadd Dyfi oedd yr unig rai i gael eu diddanu, ond y nifer fawr oedd yn gwylio adre dros Zoom hefyd.
Gyda phawb wedi cyrraedd roeddem yn barod i gychwyn, ond roedd un peth mawr ar goll, sef y beirniad. Roedd y ‘Sat Nav’ wedi ei yrru i’r lleoliad anghywir!
Ond diolch byth roedd pawb yn mwynhau sgwrsio a dal fyny ers dwy flynedd ac ambell i ymarfer sydyn cyn mynd ar y llwyfan. Gyda lwc cyrhaeddodd y beirniad, felly ffwrdd â ni. Roedd hi’n brynhawn llawn cystadlu ac roedd y safon yn uchel iawn gyda’r ddau feirniad yn chwysu chwartiau! Diolch i Huw Ynyr, beirniad cerdd a Steffan Parry beirniad llefaru ac adran ysgafn am eu gwaith caled drwy’r prynhawn. Diolch hefyd i feirniad celf Elain Jones ac i feirniad llenyddiaeth Huw Dylan Jones.
Diolch i’r cyfeilydd Huw Davies am gyfeilio a diolch i’r arweinyddion sef Manon Williams, Anna Prysor, Iwan Meirion ac arweinydd y seremoni gadeirio Rhiannon Dafydd.
Diolch i Undeb Amaethwyr Cymru cangen Meirionnydd am noddi’r gadair hardd unwaith eto eleni ac i Iolo Puw, y Parc am ei chreu. Bendant y seremoni gadeirio ydi uchafbwynt y diwrnod, gyda Ceri Meredydd yn traddodi’r feirniadaeth ar ran Huw Dylan ac yn cyhoddi mai ‘Ann’ oedd yn deilwng eleni.
Ar alwad y cyrn gwlad gan Casha a Sara o Glwb Prysor ac Eden, ac Anna a Lliwen aelodau hyn ac iau y flwyddyn yn barod i gyrchu y bardd, dyma Mared Jones o glwb Dinas Mawddwy yn sefyll ar ei thraed. Ar ôl prynhawn llawn cystadlu, Clwb Cwmtirmynach oedd yn fuddugol gyda chlwb Prysor ac Eden yn ail.
Gydag Eisteddfod CFfI Cymru ym Mhontrhydfendigaid ar 20 Tachwedd doedd dim llawer o seibiant i’r aelodau yn enwedig i Lleucu Arfon o glwb Cwmtirmynach aeth ymlaen i gynrychioli CFfI Meirionnydd gydag wyth eitem. Braf ydi cael gweld aelodau CFfI Meirionnydd ar lwyfan cenedlaethol ac yn cael profiadau bythgofiadwy. Daeth sawl canlyniad llwyddiannus yn ôl i Feirionnydd.
Cynhaliwyd cystadleuaeth barnu stoc ar Fferm T? Nant Rhyduchaf ar 9 Tachwedd. Braf oedd gweld y sied yn orlawn o aelodau, rhai wynebau cyfarwydd a rhai aelodau oedd yn cystadlu am y tro cyntaf.
Diolch i’r beirniaid Dafydd Jones, Caerberllan, am feirniadu’r gwartheg bîff ac i Euros Roberts, Dolfach, am feirniadu’r wyn tew. Diolch hefyd i Arwel a Deio T? Nant a’r teulu am gael defnyddio stoc o safon ac am y croeso cynnes bob amser.
Diwedd yr wythnos cynhaliwyd y gystadleuaeth barnu carcas yn Cae Iago, Cig Eryri, Trawsfynydd. Diolch am ein croesawu am y tro cyntaf, braf ydi cael mynd o amgylch Meirionnydd a chael lleoliadau newydd. Diolch yn fawr i Meic Owen am feirniadu.
Ymlaen yna i’r Ffair Aeaf yn Llanelwedd ddiwedd y mis, gyda sawl aelod yn mynd ymlaen i gynrychioli’r sir. Llwyddodd Sara Jones o glwb Bryncrug i gipio’r wobr gyntaf drwy ddweud ei rhesymau yn y Gymraeg yn y barnu gwartheg dan 18 oed.
Yna cafodd Dafydd Davies o glwb Cwmtirmynach dau ddiwrnod prysur a llwyddiannus iawn. Cafodd ail ar y barnu carcas dan 21 oed, a thrydydd yn y barnu wyn tew. Yna aeth ymlaen i gael yr ail wobr yng nghystadleuaeth adran y ffermwyr ifanc cynhyrchu wyn gyda’i ddwy oen benyw Cymreig, ac yn gwerthu am £98 yr un ar ddiwedd y dydd.
Caiff yr aelodau seibiant r?an tan ddechrau’r flwyddyn, gyda chwis a pharti claddu twrci fis Ionawr ac yna cystadleuaeth siarad cyhoeddus a’r pantomeim.



.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)



Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.