Yn ddiweddar lansiwyd llyfr newydd gan Myrddin ap Dafydd, gan Gwasg Carreg Gwalch gyda’r teitl o Pobl Enlli.
Un o’r cymeriadau mae Myrddin yn sôn amdano yn y llyfr yw Guto Cabli, nawr yn 83 oed a bellach yn byw ym Mhlas Hafan Nefyn.
Symudodd Guto i Ynys Enlli yn dair mlwydd oed yn 1935.
Mynychu ysgol ar yr ynys fu ei hanes a byw mewn ty o’r enw Nant.
Bu Guto’n pysgota gyda’i dad am flynyddoedd maith.
Mae pob ysgrif yn y llyfr yn gasgliad o straeon o wahanol gyfnodau o’r 20fed ganrif ar Enlli.
Mae yna hefyd hanesion gan ddisgynyddion am Nain Garreg Bach, Taid Dyno Goch, Brenin Enlli, Mari Cristin a John Ty’n Lôn.
Merch prifathrawes gyntaf Enlli oedd Gwenda Watson. Gadawodd yr ynys efo’i mam yn eneth ifanc yn 1938, ond gwnaeth ei chyfnod ar Enlli argraff barhaol arni ac mae’n dal i ail-fyw’r profiadau hynny.
Treuliodd ei bywyd yn Llundain, Panama a Manceinion, ond ar ymweliad diweddar â Phwllheli daeth â llond sach o luniau, nodiadau ei mam, ysgrifau plentyndod ac atgofion gyda hi – a dyna wreiddyn y gyfrol hon.
Daeth eraill yno mewn cyfnod diweddarach: yr arlunydd Kim Atkinson; Gwydion, y gweithiwr stad; Emyr, gweithiwr ar y tai a’r gerddi; Dic a Llew, y gwirfoddolwyr a Colin, cychwr presennol yr ynys.
Mae’u hatgofion yn cofnodi’r newidiadau a fu ym mywyd Enlli a hefyd yr her sy’n wynebu rheolwyr yr ynys i’w gwneud hi’n bosibl cael bywyd cynaliadwy yno yn y dyfodol.
Pan ddaeth Guto o Enlli i fyw ar y tir mawr, aeth i fyw yn Llangwnadl, yn ty o’r enw Cabli, ger Capel Hebron.
Yn ddiweddar fe alwodd Myrddin ym Mhlas Hafan a chyflwyno llyfr i Guto ac roedd yn hynod falch o’i dderbyn.






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.