Mae trigolion Bro Ffestiniog yn cael eu gwahodd i fynychu hustings cyhoeddus gyda’r ymgeiswyr seneddol cyn etholiad mis Mai. Mae pob plaid wedi ei gwahodd a pawb yn edrych ymlaen.

Cynhelir y digwyddiad yn Yr Aelwyd ar nos Fawrth, 1af o Ebrill am 7:00yh. Bydd y noson yn rhoi cyfle i etholwyr glywed barn yr ymgeiswyr ar faterion allweddol ac i ofyn cwestiynau’n uniongyrchol.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cwmni Bro Ffestiniog:

“Mae hwn yn gyfle pwysig i bobl lleol ymgysylltu â’r broses pleidleisio a sicrhau bod llais Bro Ffestiniog yn cael ei glywed.”

Mae croeso cynnes i bawb o’r gymuned fynychu, gan gynnwys unigolion, mudiadau lleol a busnesau.

Am ragor o wybodaeth neu i gyflwyno cwestiwn ymlaen llaw, cysylltwch â Gwenlli Evans, Cwmni Bro Ffestiniog, 01766 831111 / 07557352116.