Brondeifi
MAE GWASANAETH Urdd y Benywod yn achlysur pwysig iawn yng nghalander Brondeifi ac ni fu eleni yn eithriad. Y dyddiad oedd 15 Tachwedd ac agorwyd y gwasanaeth gyda gweddi gan Beti Evans a hi hefyd draddododd y fendith. Cyhoeddwyd yr emynau gan Maureen Evans, Sallie Jones, Mary Jones ac Elinor Russell. Elinor hefyd fu’n cyfeilio.Darllenwyd y darnau Blychau a Salem gan Dilwen Roderick a cherdd am Gymru gan Jennie Bracher. Gweddiwyd gan Eryl Jones a thraddodwyd anerchiad tuhwnt o ddiddorol a llawn ffeithiau am wahanol amylchiadau o deithio gan Gwenda Davies.Cyfeiriodd at yr ymfudo i Batagonia, yr orfodiaeth ar deluoedd i symud o Fynydd Epynt ac yn y blaen, hyd at y ffoaduriaid diweddaraf yn ceisio lloches yng ngwledydd Ewrop.Cafwyd gwasanaeth cofiadwy iawn ar 22 Tachwedd yng nghwmni’r Parch Alun Wyn Dafis gyda’r addoliad cyfan yn cylch-droi o amgylch y gyflafan ym Mharis wythnos yn gynharach. Wrth groesawi’r Parch Alun Wyn Dafis dywedodd y Parch Goronwy Evans pa mor bwysig oedd y ddefod o gofio y rhai a aberthodd eu bywydau ac a frwydrodd ar ein rhan ac ar ôl i Aneurin Jones osod plethdorch bopi newydd ar fur y capel, cafwyd munud o dawelwch.Llyfrau newydd – Dianc i Ryd-did: Hanes Rhyfel D T Davies, gwr yn ei nawdegau hwyr o Dryslwyn, Sir Gaerfyrddin sy’n sôn am ei brofiadau a’r erchylltertau yr Ail Ryfel Byd yw’r llyfr yma sydd wedi ei ysgrifennu ar ei ran gan Ioan Wyn Evans. Llyfr arall fydd yn sicr o ddiddordeb yw cyfieithiad o lyfr poblogaidd Plu yn fy Nghap gan Picton Jones – y teitl Saesneg yw Feathers in My Cap.Ar 20 Rhagfyr bydd gwasanaeth Nadolig y Plant am 10yb gyda’r parti Nadolig yn dilyn ac ar fore’r Nadolig bydd gwasanaeth teuluol yng ngofal y Parch Goronwy Evans.





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.