Merched y Wawr
Daeth criw da at ei gilydd yn Festri Capel Afan nos Lun 9 Tachwedd, i glywed un o’n haelodau, Eirionedd Baskerville, yn cyflwyno hanes cyffrous y Wladfa Gymraeg ym Mhatagonia.
Fel cyfraniad at ddathliadau 150 mlwyddiant sefydlu’r Wladfa bu Eirionedd yn gweithio’n ddiwyd yn paratoi llyfr deniadol Patagonia 150: Yma i Aros, a ymddangosodd yn ystod yr haf. Llyfr llawn lluniau o’r wlad a’i phobl yw hwn, gyda’r testun yn Gymraeg, Sbaeneg a Saesneg, a’r ffotograffau’n cofnodi cyfnod yr arloeswyr dewr yn ogystal â bywyd eu disgynyddion heddiw. A hithau’n adnabod y Wladfa a’i phobl yn dda, ac wedi gweithio am flynyddoedd fel archifydd yn y Llyfrgell Genedlaethol, anodd meddwl am neb mwy cymwys i’r gwaith nag Eirionedd.
Gyda chymorth technegol Derek, ei gwr, dangosodd lu o ffotograffau trawiadaol o’r 19eg ganrif, gan godi llen ar ffordd o fyw y ddwy genhedlaeth gyntaf a fu’n diwyllio’r tir a datblygu amaeth a masnach, gan raddol agor camlesi (‘ffosydd’ yn iaith y Wladfa) i ddyfrio’r tir a gwella’r cnydau, a rheilffordd i gario nwyddau a phobl o le i le. Ochr yn ochr â’r lluniau trawiadol hanesyddol, wedi eu dethol o ddaliadau’r Llyfrgell Genedlaethol, dangosodd Eirionedd ffotograffau lliwgar o lawer o’r un safleoedd fel y maen nhw heddiw. Cawsom flas hefyd o’r dathliadau a fu eleni, gan gynnwys dadorchuddio cofeb i long y Mimosa yn Lerpwl.
Wrth ddangos y lluniau cyflwynodd Eirionedd wybodaeth helaeth am y teuluoedd a’u ffordd o fyw dros y 150 mlynedd, a hynny mewn dull cartrefol a difyr.
Roedd cysylltiadau â’n hardal ni gan nifer o’r cymeriadau y soniodd amdanynt, a chofiai rhai o’r aelodau hanesion am y diweddar ‘Jones Pat’ a fu’n brifathro cyntaf Ysgol y Camwy cyn dod yn ysgolfeistr adnabyddus yn Ysbyty Ystwyth.
Wedi cyflwyniad mor gyfoethog, diolchodd ein Llywydd, Beryl Young, yn gynnes i’r siaradwraig, a pharhaodd y drafodaeth yn frwd dros baned wedyn.
Bydd rhaid i Sion Corn sicrhau cyflenwad mawr o gopïau o lyfr Eirionedd erbyn y Nadolig, mi fydd yn siwr o fod ar restr pawb! A bydd pob ceiniog o elw o’r gyfrol yn mynd i gefnogi addysg Gymraeg yn y Wladfa.
Edrychwn ymlaen at gyfarfod eto nos Lun, 14 Rhagfyr, ar gyfer noson o gydganu carolau yn y Festri a chyfle i gymdeithasu’n anffurfiol, gyda lluniaeth ysgafn Nadoligaidd.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.