Teyrnged i Dai England
MAE digwyddiad yn cael ei gynnal i goffáu bywyd Dai England, a laddwyd yn drasig mewn damwain car ym mis Mawrth eleni.
Bu Dai yn weithgar iawn yn yr ardal. Ymhlith ei weithgareddau amrywiol yr oedd yn gynghorydd cymuned, warden Eglwys Llanbadarn, llywodraethwr ysgol Rhydypennau, trysorydd Banc Bro (banc cymunedol) ac un o hoelion wyth Clwb Rygbi Aberystwyth.
Bu hefyd am nifer o flynyddoedd yn drysorydd y papur bro Y Tincer.
Mae’r digwyddiad i goffáu bywyd Dai, a’i gyfraniad i fywyd yr ardal, yn cael ei gynnal ym Methlehem Llandre am 6.30yh ar nos Wener, 20 Tachwedd.
Bydd te/coffi a chacen yn cael ei baratoi, a bydd stondinau bwyd. Bydd yn gyfle i wneud cyfraniad ariannol i’r Ambiwlans Awyr Cymru, yr elusen mae teulu Dai wedi ei ddewis i elwa.
Mae’r noson yn cael ei drefnu gan y grwp cymunedol Banc Bro. Bu Dai yn un o’i sylfaenwyr a thrysorydd a chydlynydd gweithgar o’r clwb Clwb 50.
Os nad ydych yn gallu ymuno ar y noson, ond yn awyddus i gyfrannu, gallwch gyflwyno eich cyfraniad ymlaen llaw i un o swyddogion y Banc Bro: Wynne Melville Jones, Y Berllan, cadeirydd; Gwenda James, Tremedd, ysgrifenyddes; Richard Evans, Llawr-y-Glyn, Lôn Glanfrêd, trysorydd. Dylai sieciau fod yn daladwy i Banc Bro.
Byddwn yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth.
Heritage
The speaker at the next meeting of Treftadaeth Llandre Heritage on Thursday, 26 November, is the renowned art historian Peter Lord.
The theme of his talk will be ‘Your Ancestors: Painting Welsh faces 1660 - 1860’ and will include portraits of Cardis.
The meeting is held at Ysgoldy Bethlehem at 7.30pm.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.