Cymdeithas Unedig

AR OL croesawu pawb i gyfarfod o Gymdeithas Unedig eglwysi Abersoch a’r cylch yng Nghapel Bwlch nos Lun, 26 Hydref, cyflwynodd Huw Williams, Bwlchtocyn, llywydd y noson y wraig wadd, sef Anna Jones, Abersoch.Yn ei harddull hwyliog a chartre-fol disgrifodd Anna ei hymweliad a gwlad Tseina.Dywedodd mai hi oedd yr unig ferch yn y grwp ac ymwelsant â nifer o drefi a phentrefi’r wlad.Cawsant gyfle hefyd i gerdded ar hyd rhan o Wal Fawr Tseina. Pan gafodd niwed i’w phenglin dywedodd bod ei chyddeithwyr wedi sicrhau cadair olwyn iddi fel nad oedd yn colli dim.Roedd ganddi amryw o luniau i’w dangos a chafwyd noson ardderchog iawn yn ei chwmni, gyda rhai o’r aelodau yn blasu gwahanol fathau o de Tseiniaidd ddaeth gyda hi.Diweddwyd y noson yn ôl yr arfer gyda phaned dan ofal merched yr eglwys. Diolchwyd i bawb gan Huw Williams.Bydd y cyfarfod nesaf nos Lun, 9 Tachwedd pryd y disgwylir Bethan Gwanas yn siaradwraig wadd.Croeso cynnes i bawb.

Oedfa

PREGETHIR yng Nghapel Bwlch y Sul yma, 8 Tachwedd, am 5yh gan y Parch Ioan Wyn Gruffydd, Pwllheli.