Merched y Wawr
GAN deimlo ychydig yn betrusgar, mentrwyd i fyd Dawnsio Swmba yng nghyfarfod mis Ebrill. Roedd hwn yn newydd i lawer o’r aelodau, ac felly heb wybod yn iawn beth i’w ddisgwyl, na beth fyddai’n addas i’w wisgo. Heulwen Jones, o Lanon, ddaeth atom i’n harwain, a buan y daethom i deimlo’n gartrefol yn ei chwmni wrth geisio dilyn ei symu-diadau i rythm y miwsig. Gwnaeth ei gorau i’n cael i symud ein traed, a chwifio’n breichiau, ac ysgwyd rhannau o’r corff na chawsant eu hysgwyd ers blynyddoedd! Rhoddodd arddangosfa hefyd, a gwelsom enghraifft o ddawnsio Swmba ar ei orau. Roedd ei hegni a’i hymroddiad yn rhyfeddol, ac yn gwneud i ni deimlo’n llesg a blinedig dim ond o’i gwylio. Trefnwyr y noson oedd Myfanwy Williams a Judith Jones, a diolch iddynt am drefnu noson arloesol. Gwnaed y diolchiadau gan Judith Jones; rhod-dwyd y raffl gan Myfanwy Williams ac fe’i henillwyd gan Eleri Hughes. Llongyfarchwyd un o’n haelodau, Carol Tandy, ar ddod yn fam-gu. Cafodd ei mab, Dylan, a’i wraig Sian, ferch fach yn ddiweddar, a’i henw yw Ela Jên. Cyfarfod mis Mai fydd trip i Gastell Aberteifi ar y 9fed. Bydd y bws yn dechrau o’r pentref am 5.45yh. Trefnwyr y trip yw Ann Ellis, Graigwen ac Ellen Rees, Maesllyn.Clwb Croeso BU’N rhaid ail-wneud trefniadau’r cyfarfod hwn gan nad oedd yn bosib cadw at y trefniant a hysbysebwyd ar y rhaglen. Yn lle hynny gofynnwyd i bawb ddod â rhyw eitem o ddiddordeb, y byddai’n barod i siarad amdano. Er mai criw bach ddaeth ynghyd, roedd sawl un wedi chwilio eitemau, a chafwyd am-bell hanesyn diddorol. Roedd y trydan i ffwrdd drwy’r bore yng nghyffiniau’r Neuadd, ond, yn lwcus iawn, daeth yn ôl mewn pryd i’r cyfarfod. Roedd un o’r aelodau, yn garedig iawn, wedi dod â chacennau, a mwynhawyd yr egwyl am baned o de yn fwy nag arfer! Y tro nesaf, byddwn yn cyfarfod yn y pentref am 12.45yp i fynd i Peapod Pottery, ger Llwyndafydd, i addurno crochenwaith.






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.