PONTSIAN yn ennill y Pantomeim!

Cynhaliwyd cystadleuaeth Pantomeim CFfI Ceredigion yn Theatr Felinfach dros wyliau’r hanner tymor, gyda 14 o glybiau’r sir yn cystadlu.

Cafwyd cefnogaeth gref gan y clybiau a hefyd ffrindiau’r Mudiad, gan sicrhau bod y theatr dan ei sang bob nos.

Rydym yn lwcus iawn bod cyfleusterau fel Theatr Felinfach ar gael i ni ei ddefnyddio a diolchwn i’r holl staff am eu cydweithrediad parod bob amser.

Diolch yn fawr i brif noddwr y gystadleuaeth Ceredigion NFU Trust Fund ac am eu presenoldeb gydol yr wythnos.

Y clybiau a gymrodd ran oedd: Bro’r Dderi, Caerwedros, Felinfach, Llanddewi Brefi, Llangwyryfon, Llanwenog, Lledrod, Mydroilyn, Penparc, Pontsian, Talybont, Tregaron, Trisant a Throedyraur, gyda dros 400 o aelodau’r sir yn cael y profiad o berfformio ar lwyfan.

Y beirniad swyddogol eleni oedd Dafydd Hywel o Dyffryn Aman.

Ar ddiwedd y noson, dyfarnwyd Pontsian yn gyntaf gyda 95 o farciau; Talybont yn ail gyda 90 o farciau; Caerwedros yn drydydd gyda 88.

Yn ogystal â Pontsian yn ennill tarian coffa D J Morgan am ennill y gystadleuaeth, cyflwynwyd nifer o wobrau eraill ar ddiwedd y noson olaf: Actor gorau 16 oed neu iau, ac yn ennill tarian Mr a Mrs Alwyn Evans, oedd Daniel Owen a Jac Hockenhull, Llanddewi Brefi; Actores orau 16 oed neu iau, ac yn ennill Cwpan Teulu Pantyrodyn, oedd Elain Davies, Caerwedros; Actor gorau, ac yn ennill Cwpan Coffa Janet Davies, Llanilar oedd Endaf Griffiths, Pontsian; Actores orau, ac yn ennill Cwpan Coffa Mary Jane Dowling a Tudor Lewis, Gorslwyd oedd Megan Lewis, Trisant; enillwyd Cwpan Coffa D Arthur Davies am y cynhyrchydd gorau gan glwb Pontsian; gyda Llanwenog yn ennill Tarian Marie Vaughan Jones am y set orau; Cwpan Theatr Felinfach am y Perfformiad Technegol Gorau i glwb Llanwenog; gyda Chwpan Ifor ap Glyn o Cwmni Da am y sgript orau yn mynd i glwb Pontsian.

Derbyniodd pob un o’r enillwyr darn o lechen i’w gadw o waith Sianti, Aberaeron ac rydym yn ddiolchgar i Undeb Amaethwyr Cymru am eu rhoi.

Roeddem yn ffodus iawn i gael llywyddion ar gyfer pob noson, sef: Rhodri Evans, Llanddewi Brefi; Meinir Jenkins, Lledrod; Lyn Jones, Penparc; Eifiona Evans, Talybont, Bethan Evans, Caerwedros a Nia Jones, Pennant - pob un ohonynt yn gyn-aelodau o’r mudiad.

Diolch iddynt am eu cefnogaeth a’u rhoddion hael i’r achos. Diolch hefyd i’r cwmniau canlynol am roi’r brif wobr y raffl yn ystod yr wythnos: Ffab Cymru, Llandysul; Blodau’r Bedol, Llanrhystud; Tafarn y Swan, Llanon; Cwmni CCF; a Llond Plât, Aberaeron.

Bydd Clwb Pontsian yn mynd ymlaen yn awr i gynrychioli Ceredigion yng nghystadleuaeth Pantomeim CFfI Cymru, ym Mhafiliwn Rhyl.

Cambrian News yr wythnos hon ar gael yn y siopau yfory