MAE un Mam wedi mynd ati i lenwi’r bwlch yn y llyfrau Cymraeg sydd ar gael sydd yn darlunio realiti sefyllfa o fagu plentyn yng Nghymru gyda safbwynt Cymreig a Chymraeg drwy gyhoeddi llyfr newydd fydd yn ganllaw doniol a chynhwysfawr i rieni newydd yn y Gymraeg.

Mae Heulwen Davies o Fachynlleth wedi cyhoeddi Mam – Croeso i’r Clwb, sef llyfr llawn ffeithiau i famau newydd yn cofnodi profiadau mamau, tadau, y teulu, doctor a bydwragedd gan arwain y fam trwy’r beichiogrwydd, hyd at ddiwedd blwyddyn gyntaf y plentyn.

Mae’r gyfrol yn trafod yn ysgafn ac yn agored am y newidiadau a’r heriau sydd yn wynebu rhieni newydd gan gynnig cyngor ar hyd y ffordd.

Cafodd ei lansio i gyd-fynd â Sul y Mamau.

“Fel mam am y tro cyntaf, daeth hi’n amlwg bod digon o lyfrau a gwefannau Saesneg ar gael i famau, er mwyn cael cyngor a rhannu profiadau, ond doedd dim llyfr Cymraeg na phlatfform digidol Cymraeg,” eglurodd Heulwen, “er bod yr adnoddau Saesneg yn help, o’n i’n methu uniaethu a sefyllfa’r mamau yma, gan bod y mwyafrif yn byw mewn dinas, yn gyfoethog ac yn posh! Roedd eu bywyd nhw yn dra gwahanol i fy mywyd i – fel mam feichiog a mam newydd yng nghefn gwlad Cymru. Nid yn well, ond yn wahanol.”

“Ro’n i’n awyddus i newid y sefyllfa, er mwyn helpu mamau a rhieni’r dyfodol, wrth sicrhau bod profiadau pawb yn cael eu rhannu yn y Gymraeg ac yn ddwyieithog, er mwyn portreadu bywyd rhiant yng Nghymru. Dechreuais flogio am fy mhrofiad fel mam newydd a chael ymateb da iawn.”

A hithau yn awyddus i annog mwy o rieni i drafod ac i gefnogi ei gilydd, fe benderfynodd Heulwen ysgrifennu llyfr ei hunan gan sefydlu’r blog dwyieithiog poblogaidd, Mam Cymru, yn y cyfamser.

Daeth yr ysgogiad i ysgrifennu’r llyfr o’r diwedd gan yr awdures Caryl Lewis pan fynychodd Heulwen gwrs ysgrifennu un dydd yn Nhy Newydd yr oedd Caryl yn ei harwain.

Ar ddiwedd y cwrs, geiriau Caryl oedd, “Os na ei di a’r syniad a’r llyfr yma i gyhoeddwr dydd Llun, fydda i’n mynd ag e i ti!”

Cambrian News yr wythnos hon ar gael yn y siopau nawr