CYHOEDDIR nofel gyntaf Linda Wyn, Ble Aeth Elen Puw? gan wasg y Lolfa.
Yn y stori afaelgar mae Sara Price, newyddiadurwraig gyda’r BBC, yn dychwelyd i’w thref enedigol i ymchwilio i ddiflaniad Elen Puw yn 1973 ar gyfer podlediad.
Diflannodd y ferch ysgol 18 oed ar y ffordd ’nôl i’w chartre yn Rhyd-dderwen, tref fach yn Sir Gaerfyrddin.
Er gwaethaf ymdrechion yr heddlu a’r gymuned leol bu ei diflaniad yn gyfrinach am dros hanner can mlynedd.
“Unwaith y ces i’r syniad o lunio podlediad yn ymchwilio i ddiflaniad Elen Puw, roedd hyn yn rhoi fframwaith i mi strwythuro’r nofel o gwmpas cyfweliadau gyda nifer o gymeriadau oedd yn cofio’r cyfnod,” meddai Linda Wyn, sy’n enedigol o Ddyffryn Aman.
“Mae Ble Aeth Elen Puw? wedi ei lleoli mewn tref ddychmygol yn Nwyrain Sir Gaerfyrddin ble y cefais i fy magu.
“Er ei bod yn ardal Gymraeg ei hiaith, does dim llawer o nofelau wedi eu lleoli yno, felly ro’n i’n awyddus i ddarlunio’r fro a’i phobl.
“Hefyd, ro’n i eisiau adrodd rhywfaint am frwydr yr iaith yn y saithdegau, gan fy mod yn teimlo nad yw llawer o’r to ifanc yn sylweddoli sut oedd pethau yn y cyfnod hwn.
“Rwy wedi tynnu oddi ar fy mhrofiadau personol o fod yn aelod ifanc o Gymdeithas yr Iaith yn yr un cyfnod. Ond do’n i ddim eisiau pregethu, ond yn hytrach, gosod yr hanes yng nghyd-destun stori ddirgelwch.”
Treuliodd Linda Wyn ei gyrfa ym maes Addysg Bellach ac fe fu’n bennaeth ar Goleg Meirion Dwyfor a Choleg Menai cyn ymddeol. Bellach mae hi’n byw ym Mhontcanna yng Nghaerdydd.
“Rydw i wedi bod yn ddarllenydd brwd ar hyd fy oes – nofelau’n bennaf yn Gymraeg a Saesneg – ac yn hoff iawn o nofelau dirgelwch. Felly, os oeddwn i am ysgrifennu llyfr, yna dyma’r genre ro’n i’n fwyaf cyfarwydd ag e.”
Er bod y nofel ond newydd ei rhyddhau, mae’r ymateb wedi bod yn ffafriol iawn ac ambell un eisoes yn disgwyl ymlaen at y nofel nesaf.
“Gafaelgar ar y naw,” meddai’r awdur Jon Gower am y nofel ddirgelwch hon. “Mae Linda Wyn wedi llunio stori fywiog, boblogaidd a hynod ddarllenadwy.”
Bydd Ble Aeth Elen Puw? yn cael ei lansio’n swyddogol ar Orffennaf yr 2ail yn nhafarn y Robin Hood, Pontcanna gydag Aled Eirug yn holi a Sara Harris-Davies yn darllen o’r nofel.
Fe fydd lansiad yn Palas Print ar yr 16eg o Orffennaf. Bydd Geraint Lovgreen yn holi a Sian Beca yn darllen darnau o’r nofel.
Mae Ble Aeth Elen Puw? gan Linda Wyn ar gael nawr (£9.99, Y Lolfa).
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.