YNG ngwobrau cenedlaethol y Mentrau Iaith neithiwr ym Mharc y Scarlets Llanelli, cyhoeddwyd enw’r pum Menter Iaith sydd wedi ennill prosiect o ragoriaeth yn 2026 yn ogystal â dathlu gwaith arbennig y 22 o fentrau iaith ledled Cymru yn hyrwyddo a chynyddu defnydd o’r Gymraeg.
Roedd y beirniad yn chwilio am brosiectau oedd yn cael effaith gadarnhaol ar ddefnydd ac agweddau at y Gymraeg, yn apelgar, yn arloesol ac yn gynhwysol. Noddwyd y gwobrau gan Mentera, Atebol, Darwin Gray, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg.
Y pum prosiect o ragoriaeth a ddaeth i’r brig oedd:
· Menter Môn - gyda’u prosiect Ogi Ogi
· Menter Iaith Abertawe - gyda Chôr Cymunedol Gŵyl Tawe
· Menter Dinefwr – gyda’u prosiect Helo Hanes
· Menter Iaith Conwy – gyda’u Pwyllgorau Ardal
· Menter Iaith Sir Benfro – gyda’u Prosiect Glasu
Yn ôl Garmon Rhys, Cyfarwyddwr BBC Cymru, oedd ar y panel beirniadu, “Mae wedi bod yn ysbrydoledig gweld yr holl waith gwerthfawr sy’n digwydd mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru.
“Ac er y gallem fod wedi gwobrwyo pob un o’r prosiectau, roeddem fel panel yn gytûn fod y pum prosiect o ragoriaeth ddaeth i’r brig yn haeddu clod arbennig.”
Wrth gyflwyno’r pum prosiect ddaeth i’r brig, dywedodd y beirniaid: “Roedd prosiect Ogi Ogi gan Menter Môn, sy’n siop-un-stop i annog a chefnogi rhieni newydd i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’u plant, yn syniad gwych i wreiddio’r Gymraeg mewn bywydau bach o'r cychwyn cyntaf. Roeddem hefyd yn gweld fod potensial iddo gael ei ymestyn i bob cwr o Gymru.
“Roedd prosiect Menter Iaith Abertawe i sefydlu côr cymunedol fel rhan o Ŵyl Tawe yn gyffrous iawn. Y bwriad oedd ymgysylltu gyda chymunedau gwahanol sy’n byw yn Abertawe a’u cyflwyno i’r Gymraeg. Llwyddodd i ddenu pobl newydd at yr iaith trwy gân.
“Difyr oedd clywed am brosiect Helo Hanes Menter Dinefwr sy’n dod â hanes yn fyw yn yr ardal. Roedd yn wych gweld sut oedd treftadaeth yr ardal yn cael ei ddefnyddio fel arf i gysylltu cymunedau ac unigolion gyda'u milltir sgwâr, a'r iaith. Ac roedd yn glir y gallai’r prosiect yma gael ei efelychu mewn ardaloedd eraill.
“Er mwyn grymuso’r gymuned a sicrhau fod digwyddiadau a gweithgareddau’n cael eu cynnal ar draws y sir, mae Menter Conwy wedi sefydlu 12 pwyllgor lleol sy’n rhoi cyfrifoldeb i gymunedau drefnu digwyddiadau. Roedd hon yn enghraifft dda o ledaenu'r effaith y Fenter yn ogystal â gwreiddio'r gweithgareddau o fewn cymunedau ar draws y sir.
“Ac roedd prosiect Glasu Menter Sir Benfro yn enghraifft berffaith o sut y mae’r mentrau’n uchafu effaith digwyddiadau cenedlaethol megis yr Eisteddfod Genedlaethol. Roedd yn brosiect trawiadol a gweladwy iawn, oedd yn plethu hanes a diwylliant yr ardal mewn modd amrywiol, gyda’r murluniau’n goron ar y cyfan. Mae hefyd yn braf gweld fod gweithgareddau yn ymwneud gyda’r prosiect yn parhau, fel arwydd o waddol yr Eisteddfod yn ein cymunedau.”
Ar y panel beirniadu, roedd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru, Garmon Rhys, Cyfarwyddwr BBC Cymru, Llinos Roberts, Cyfarwyddwr Datblygu'r Gymraeg Coleg Cambria, Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru ac Elin Burns, Cyfarwyddwr y Gymraeg Llywodraeth Cymru.
Roedd gwobrau cenedlaethol y Mentrau Iaith wedi eu noddi gan y pum prif noddwr - Mentera, Atebol, Darwin Gray, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg - yn ogystal â Llywodraeth Cymru, BBC Radio Cymru, Am, Golwg Creadigol, S4C, Ateb, Ashmole & Co a Rhieni Dros Addysg Gymraeg.
Am fwy o wybodaeth am waith Mentrau Iaith Cymru, ewch i mentrauiaith.cymru






Comments
We've recently changed our login process. If you have an account for commenting, you will need to re-register on the login window.
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.