Mae S4C wedi cyhoeddi arlwy i gyfleu’r holl fwrlwm wrth i dîm Cymru gystadlu ym Mhencampwriaeth UEFA Euro Menywod 2025 yn Y Swistir fis Gorffennaf, ochr yn ochr â darlledu pob gêm Cymru yn y bencampwriaeth yn fyw ar S4C.

Fel Cartref Chwaraeon Cymru, S4C yw’r unig ddarlledwr sy’n dangos pêl-droed menywod yn fyw ar bob lefel – o’r Brif Adran Premier Genero, Tlws yr Adran Genero a Chwpan Cymru, i'r tîm cenedlaethol.

Mae’r cynnwys arbennig sy’n dilyn taith Cymru i’r Ewros - ar deledu, llwyfannau digidol ac ar draws y cyfryngau cymdeithasol – oll yn rhan o ymgyrch AmdanHi S4C yn cefnogi tîm Menywod Cymru gan ysbrydoli mwy o ferched a menywod i gymryd rhan mewn chwaraeon.

Noson o ddathlu menywod Cymru

Ar nos Wener, 4 Gorffennaf, bydd S4C yn darlledu noson gyfan o raglenni i ddathlu llwyddiannau tîm Menywod Cymru cyn y gêm gyntaf ar ddydd Sadwrn, 5 Gorffennaf.

Bydd dwy rifyn arbennig o Heno, Heno: Euro 2025 am 19:00 a 20:30 gydag Angharad Mair a Llinos Lee yn cyfleu’r cyffro a’r awyrgylch ymhlith cefnogwyr Cymru yn Lucerne a rhoi blas ar y bencampwriaeth a’r hyn sydd i ddod.

Bydd Newyddion S4C yn darlledu rhaglen awr o hyd yn fyw o Lucerne am 19:30 a bydd y rhaglen ddogfen ysbrydoledig, Yr Hawl i Chwarae, ar gael i wylio eto am 21:00 yn adrodd hanes gyfoethog ond anghyfarwydd pêl-droed menywod yng Nghymru am y tro cyntaf ar deledu.

Bydd rhaglen arbennig am Jambori’r Ewros am 09:00 yn rhan o Stwnsh Sadwrn ar ddydd Sadwrn, 5 Gorffennaf ar fore’r gêm. Mae’r Jambori yn ddigwyddiad cenedlaethol sydd yn dod â holl ddisgyblion ysgolion cynradd Cymru ynghyd i ganu a dathlu llwyddiant y tîm - wedi’i drefnu gan yr Urdd mewn partneriaeth â Chymdeithas Bêl-droed Cymru, S4C, Boom Plant a BBC Cymru Wales, ac wedi’i gefnogi gan gronfa Euro 2025 Llywodraeth Cymru.

Pob gêm yn fyw ar S4C

Bydd y gêm gyntaf, Cymru yn erbyn Yr Iseldiroedd, yn fyw ar S4C o 16:30 gyda’r gic gyntaf am 17:00, ar 5 Gorffennaf. Bydd S4C yn darlledu pob gêm Cymru yn y bencampwriaeth yn fyw ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.

Sioned Dafydd fydd yn cyflwyno, Gwennan Harries ac Owain Tudur Jones yn dadansoddi gyda Dylan Ebenezer a Nic Parry yn cwblhau tîm S4C.

Meddai Sioned: “Ma' fe’n foment mor, mor browd i fi yn bersonol. Dwi wedi tyfu lan yn gwylio pêl-droed ac mae cael cyflwyno gemau’r Ewros yn fyw o’r Swistir ar S4C bendant yn mynd i fod yn uchafbwynt i fi.

“Ma’ fe’n mynd i fod yn sbesial achos ni’n cael twrnamaint hanesyddol arall ar S4C. Roedd Qatar yn hanesyddol o ran y dynion achos dyna oedd y tro cyntaf iddyn nhw gyrraedd Cwpan y Byd ers 1958 a nawr mae yna fwy o hanes yn cael ei greu gan y menywod, sydd yn mynd i brif dwrnamaint am y tro cyntaf yn eu hanes nhw.

“Maen nhw wedi bod ar daith anhygoel, a taith caled, a ni wedi dilyn y daith ers y dechrau a fydd hi jest yn wych i weld chwaraewyr fel Jess Fishlock ac Angharad James, sydd wedi bod o gwmpas ers gymaint o amser, nawr yn haeddu’r foment yma o chwarae yn yr Ewros mas yn y Swistir.”

Ar blatfformau digidol S4C, bydd cyfle i ddod i nabod rhai o arwyr tîm Cymru, a bod yn rhan o’r naws Cymreig yn y Swistir trwy cynnwys dyddiol dros blatfformau digidol Clic, YouTube a’r cyfryngau cymdeithasol. Ac mi fydd cyfrifon Sgorio a Newyddion S4C yno bob cam o'r ffordd hefyd yn rhannu’r newyddion ddiweddaraf.

Diolch i gronfa Euro 2025 Llywodraeth Cymru bydd S4C yn trefnu digwyddiadau a gweithgareddau i gefnogwyr yn y Swistir ac hefyd yn sicrhau gwaddol i’r bencampwriaeth drwy ehangu cyfleon i ferched ifanc yn y diwydiant, gan sicrhau bod S4C i Bawb. Bydd mwy o newyddion am hyn i ddod.

Manylion darlledu S4C o gwmpas y bencampwriaeth:

19 Mehefin: 18:30 Heno (rhaglen awr arbennig - Cyhoeddi Carfan EURO 2025 Cymru)

26 Mehefin: 21:45 Y Gêm: Gwennan Harries

29 Mehefin: 20:00 Iaith ar Daith: Jess Fishlock

04 Gorffennaf: 19:00 Heno: EURO 2025

04 Gorffennaf: 19:30 Newyddion (Rhaglen arbennig awr o hyd)

04 Gorffennaf: 20:30 Heno: EURO 2025

04 Gorffennaf: 21:00 Yr Hawl i Chwarae

05 Gorffennaf: 08:00 Stwnsh Sadwrn a Tekkers (Tekkers am 08:00. Jambori am 09:00)

05 Gorffennaf: 16:30 Cymru v Yr Iseldiroedd. KO 17:00

09 Gorffennaf: 19:30 Ffrainc v Cymru. KO 20:00

13 Gorffennaf: 19:15 Lloegr v Cymru. KO 20:00