Mae Cered: Menter Iaith Ceredigion, mewn partneriaeth â’r orsaf radio Cymru Sport, wedi cydweithio ar brosiect Cynllun Gohebwyr Ifanc Ceredigion.
Bwriad y prosiect yw rhoi cyfle i bobl ifanc sylwebu ar gemau pêl droed byw drwy gyfrwng y Gymraeg yn Aberystwyth gyda Chlwb Pêl Droed Merched Aberystwyth yn y Genero Adran Premier a Chlwb Pêl Droed Dynion Aberystwyth yn y Cymru Premier yn ystod tymor 2023/24.
Gareth Roberts, Lily-May Welsby a Caiomhe Pennant o Ysgol Penweddig sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect a sylwebu ar nifer o gemau byw yn nhymor 2023/24.
Dywedodd Caiomhe: “Dwi wedi magu llawer o hyder yn sylwebu ar y radio, ma fe di bod yn ffantastig.”
Aberystwyth photographer's charity calendars raise almost £25,000
Aberystwyth launch for Honno's Hearth Food will celebrate International Women's Day
Careers Connections pilot links mid Wales learners with local employers
Ceredigion council hopes to start work on Welsh language immersion centre in JuneYchwanegodd Gareth: “Dwi wedi datblygu fy sgiliau cyfathrebu ac ymchwilio trwy sylwebu.”
Cytunodd Lily May drwy ddweud: “Dwi wedi cael llawer o brofiad yn gwneud hyn ac ma fe’n grêt os wyt ti am gael gyrfa yn y maes sylwebu.”
Yn dilyn llwyddiant y prosiect eleni, bydd Cered yn parhau gyda’r Prosiect Cynllun Gohebwyr Chwaraeon Ifanc ar gyfer tymor pêl droed 2024/25 ac maent yn edrych i ehangu a sylwebu gemau clybiau eraill yng Ngheredigion.
Cynhelir Gweithdy Sylwebu gyda Cered a Cymru Sport ar 19 Medi yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth o’r enw ‘Tu ôl y Meic’ gyda’r sylwebydd proffesiynol o Sgorio, Mei Emrys. Croesawir pobl ifanc 14 – 19 oed i fynychu’r digwyddiad am ddim.
Dywedodd Rhodri Francis o Cered: “Dyma’r ail flwyddyn rydym wedi ymgymryd â’r prosiect ac mae wedi profi i fod yn llwyddiannus iawn gyda phobl ifanc sydd wedi cymryd rhan.
“Diolch i Gyngor Tref Aberystwyth am y gefnogaeth ariannol tuag at y prosiect ar gyfer tymor 2024/25 a hefyd i Glwb Pêl Droed Aberystwyth am weithio mewn partneriaeth â ni a rhoi cyfle unigryw ac anhygoel i bobl ifanc yr ardal i sylwebu ar eu gemau.”
Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion sy’n gyfrifol am Ddiwylliant: “Mae pob cyfle i hyrwyddo’r Gymraeg a'i chyplysu gydag adloniant, gweithgareddau hamdden a chymdeithasu yn waith cwbwl sylfaenol i bob Menter Iaith.
“Mae’r prosiect yma yn dangos i bobl ifanc bod yr iaith yn fyw ac yn greiddiol i fyd chwaraeon yng Nghymru a mae’n wych clywed am bobl ifanc lleol sy’n awyddus i ddatblygu sgiliau ym maes newyddiaduriaeth chwaraeon.
“Mae nifer fawr o acenion Ceredigion i’w clywed ar y BBC a sianeli eraill yn sylwebu ar pob math o gampau - a mae’n dda gwybod bod yna rai yn paratoi at wneud hynny yn y dyfodol!”


Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.